Antartica'n rhewi
Mae gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi darganfod tystiolaeth newydd ynglŷn â newidiadau hinsawdd yn y gorffennol sy'n help i ddatrys peth o ddirgelwch y llen iâ eang a ymddangosodd yn Antarctica 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Nid oedd Antarctica dan orchudd o iâ ymhob cyfnod; gorweddodd dros begwn y de heb rewi am bron i 100 miliwn o flynyddoedd. Yna, tua 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl newidiodd yr hinsawdd yn ddramatig ar y ffin rhwng epocau'r Ëosin a'r Oligosen. Oerodd yr hinsawdd tŷ gwydr cynnes, a fu'n sefydlog ers diflaniad y dinosoriaid, yn ddramatig, gan greu'r "ty-iâ" sydd wedi parhau hyd heddiw.
Oeri byd-eang
Mae nifer o wyddonwyr yr hinsawdd yn ceisio deall beth achosodd y newid hwn yn yr hinsawdd. Dylai hyn ddatgelu mwy am y ffordd mae'r hinsawdd yn ymateb i reolyddion mawr fel newidiadau yng nghylchdro'r Ddaear, a chrynodiad y nwyon tŷ-gwydr yn yr atmosffer.
Trwy astudio'r microffosilau sy'n bresennol mewn haenau o fwd o'r dyfnfor, gellir cofnodi newidiadau yn hinsawdd y gorffennol. Hyd yma, mae gwyddonwyr wedi darganfod bod y moroedd wedi cynhesu yn ystod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd, tra bod haenau o iâ wedi ymddangos yn Antarctica a'r Arctig. Nid yw'r dystiolaeth anghyson yn cytuno ag efelychiadau cyfrifiadurol o hinsawdd y cyfnod chwaith: nid yw'r modelau cyfrifiadurol yn dangos bod iâ yn yr Arctig.
Project drilio Tanzania
Daeth yr ateb i'r pos iâ hwn o gyfeiriad annisgwyl, sef Tansanïa yng Ngorllewin Affrica. Mae project drilio Tansanïa wedi bod yn adfer creiddiau mwd hynafol a ddyddodwyd ar wely'r môr (ac sydd bellach wedi cael eu codi'n ddaearegol i'r tir).
Mae creiddiau Tansanïa yn arbennig gan fod trwch mawr o fwd wedi cael ei osod mewn cyfnod cymharol fyr, sy'n golygu bod modd gweld newidiadau yn yr hinsawdd drwy'r oesoedd mewn cryn fanylder. Hefyd caiff microffosilau eu canfod yn y creiddiau mewn cyflwr gwych. Mae'r creiddiau Tansanïaidd yn cynnig y darlun clir cyntaf o'r gydberthynas rhwng gostyngiadau yn lefelau'r môr a newidiadau yn yr hinsawdd.
Unioni'r cam
Defnyddiwyd cemeg y microffosilau Tansanïaidd i greu cofnodion o dymheredd a chyfaint iâ dros gyfnod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd. Mae'r cofnodion newydd hyn yn dangos bod moroedd y byd wedi oeri gydag ymddangosiad yr haenau iâ, ac y byddai cyfaint yr iâ wedi ffitio ar Antarctica; felly bellach mae'r efelychiadau cyfrifiadurol o ddata'r hinsawdd, a hinsawdd y gorffennol yn cyfateb.
Heddiw mae'r pwyslais ar chwilio am dystiolaeth o achos yr oeri byd-eang hwn. Credir mai lleihad graddol yn lefelau CO2 yr atmosffer sy'n bennaf gyfrifol, wedi'i gyfuno â chyfnod 'sbardun' pan greodd cylchdro'r Ddaear o amgylch yr haul hafau Antarctaidd digon oer i rewi iâ drwy gydol y flwyddyn.
Sut mae'n gweithio
Trwy astudio cemegau cregyn anifeiliaid bychan maint blaen pin o'r enw fforaminifferau, gallwn weld sut y newidiodd tymheredd y môr ar hyd yr oesoedd. Mae fforaminifferau yn adnoddau gwych ar gyfer astudio hinsawdd y gorffennol, sy'n ein helpu i ddysgu am ansicrwydd hinsawdd tŷ-gwydr ein dyfodol.
Darllen Cefndir
Lear, CH, Bailey, TR, Pearson, PN, Coxall, HK, Rosenthal, Y. Cooling and ice growth across the Eocene-Oligocene transition. Geology 36 (3), 251-254. 2008.
http://www.gsajournals.org/perlserv/?request=get-abstract&doi=10.1130%2FG24584A.1
Dyddiad yr erthygl: 19 Mai 2008
Dangos sylwadau
Gadael sylw
Geirfa
Epoc
Rhaniad o gyfnod daearegol yw Epoc; dyma'r rhaniad lleiaf o amser daearegol, sy'n para miliynau o flynyddoedd.
Microffosilau
Ffosilau sydd mor fân fel bod angen microsgop i'w hastudio.
Creiddiau
Samplau silindraidd o graig a geir trwy ddrilio ar wyneb y tir neu ar wely'r môr.
Fforaminifferau
Plancton microsgopig sydd â chragen carbonad fel arfer.




