Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd
Y ffrynt danddaear
[delwedd: Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin.]
Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin.
Dydy stori'r Bois Bevin ddim yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt danddaear' eu cydnabod am bron i hanner canrif.
Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu drosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle.
Ernest Bevin
[delwedd: Bois Bevin]
Bois Bevin o de Cymru
Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin'
Cosb
[delwedd: Baner goffa'r Bechgyn Bevin.]
Baner goffa'r Bechgyn Bevin.
Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn groes i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol.
Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol a phob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd.
Roedd y dynion oedd yn gwrthod mynd i'r diwydiant glo'n cael eu cosbi. Ym mis Ebrill 1944, dywedodd Gwarcheidwad y Glofeydd fod 135 o ddynion y balot wedi cael eu herlyn am fethu ag ufuddhau i'r gorchymyn llafur uniongyrchol. Aeth 32 i'r carchar, er bod 19 wedi cael eu rhyddhau yn y pen draw ar ôl cytuno i fynd i weithio i'r diwydiant glo.
Ciab a rhaw
[delwedd: Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke on Trent.]
Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke on Trent.
Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'u dillad eu hunain, roedd Bois Bevin yn cael oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain ac ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw!
Dim ond cyfran fach o Fois Bevin gafodd eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal-a-chadw ar yr hewlydd tanddaear, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaear. Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd.
Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym.
Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael eu poeni gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n sbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi.
"Demob"
[delwedd: Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004.]
Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004.
Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 a chafodd y canolfannau hyfforddi eu cau'r mis wedyn. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr.
Cafodd yr olaf o Fois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd nôl i'w hen swyddi. Chawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly dyw Bois Bevin ddim hyd yn oed yn gallu profi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain.
Cafodd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin ei gynnal yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi bod yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniat´u i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall.
Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â:
Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester
Dorset, DT1 3TN
Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Dyddiad yr erthygl: 3 Ionawr 2008
Themau
Geirfa
Dimôb / dimobio
Talfyriad o demobilized - sef y broses o ddarfod dyletswydd lluoedd arfog cenedl o statws brwydr, fel yn sgil buddugoliaeth mewn rhyfel.
18 sylw
Pauline Etherden ar 29 Hydref 2012, 08:03
I found your article very interesting. My father was a Bevin Boy and we believe he was in a pit in Yorkshire.
However, he did not talk much about it. Is there any organisation that kept a note of who worked where, although if my memory serves me well there isn't.
His name was Theodore Lionel Etherden. He was born on 18th September 1926.
I look forward to hearing from you.
Wm. K Smith ar 12 Hydref 2012, 15:30
I was conscripted to the south. Wales coal mines. First. Oak dale them britania mine at. Pengam I felt ashamed that I was not in the forces. My digs were in a little village called Fleur. De lys. Near. Bargeod four of us there in two rooms. Only one bed. One was on nights whilst the other on days so you got the bed on your own. Unfortunately my room made died of tuberculosis. And a few months later I must have contracted it unknown to me I kept working but had to take days off missing work because I could not handle a shovel. The authorities came on me like a ton of bricks. I was 18 ,didn't know I was Ill Threaten me if I didn't do better time keeping I would be put in prison. worked on until I collapesd. With double phemonia and sent back to. Blackpool. (Unfit for coal mining). No cure for TB then. Spent next three years in and out of hospital. Till 1951 I had my lung removed. Pleased to say I am now 86 and still here started a little business. Which has quietly kept my all these years. Never had a penny from the government till I got my pension. Had I been in the forces My life would have been much easier. But then. If I had been with all those brave lads. I may not have returned. Wm ( Bill ). Smith 9/10/12
alex ar 11 Hydref 2012, 15:53
good work
Mr William Hatcher ar 7 Medi 2012, 09:28
I am am a 87 year old ex bevin boy i am on your photo on remembrance day 2004 i worked ay ormonde colliery my last job was working on coal face with cuuuing machine i have just attended our last local reunion BILL HATCHER
katie bryant ar 24 Gorffenaf 2012, 11:20
my grandad was a bevin boy at ashington colliery his name was mr harry augustus howes if anyone has photos please contact me at bryant.katie9@gmail.com thank you
wayne cornelius ar 15 Rhagfyr 2011, 16:13
Hi and thanks for the information, my Father had been a Bevin boy and I was uncertain hoe to feel about this due to the misconception, he rarely talked about it but I due remember one of his brothers giving him a hard time over it, he has now passed away in 1995 and would have been proud for the late recognition, many thanks
Denys Owen ar 25 Hydref 2011, 16:03
Regarding the statement that Bevin Boys were issued, inter alia - with overalls, this was not the case in the North Wales coalfield (I refer in particular to Gresford Colliery), where we were only issued with a helmet and boots, so we had to supply our own clothes.
Being unaware of this when we first arrived at the pit, the first week was indeed a problem!
M. SHARP ar 20 Awst 2011, 15:50
I was born in December 1939 but until this afternoon when I listened to Radio 4's play I had absolutely no idea about or knowledge of 'The Bevin Boys' and the policy to send guys down the pits. Logic says, wouldn't it have been better to have kept the skilled miners in the pits instead of having to recruit others but 'waddo I know'? A fascinating piece of history!
Amgueddfa Cymru ar 1 Chwefror 2011, 12:30
Dear JKL, thank you for your comment - The National Service (Armed Forces) Act made all able men between the ages of 18 and 41 liable for conscription.
WW2 People's War [BBC]
jkl ar 1 Chwefror 2011, 12:19
how old did you hve to be to join the british army in ww2
jellybeans ar 9 Rhagfyr 2010, 11:51
awesome
Mrs Anne Lane ar 3 Awst 2010, 09:29
The address for Warwick Taylor is incorrect.
Christopher David Van-Hilton ar 1 Gorffenaf 2010, 09:56
My late father Lawrence Edward Hilton was a Bevin Boy, is there any awards that I can claim in his memory. This would help me and my brothers and sisters understand something of the horrors that he faced as a very young man. I thank you for your help.
BRIAN WILSON ar 1 Gorffenaf 2010, 09:55
My father Herbert William Wilson was a bevin boy and had his legs badly broken in a rooffall, but i don't seem to be able to find out much about were he was or for how long.He has passed away now and all i have from that time is a duck his mates made for him out of a piece of coal while he was convalesing if you could help me in any way to find out more i would be very grateful.
Amgueddfa Cymru ar 1 Gorffenaf 2010, 09:55
Dear Brian,
Thank you for your comment, you may want to try the Bevin Boys Association who may be able to help you further:
Warwick H Taylor
Vice President, Bevin Boys Association
1 Rundlestone Court
Dorchester
Dorset
DT1 3TN
Gadael sylw