Llwyau caru
Mae'r traddodiad o wneud llwyau caru'n deillio o gyfnod pan ddefnyddiai'r Cymry cyffredin lestri pren i fwyta.
Mae'n debygol i'r llwy garu ddatblygu o'r llwy gawl. Lluniwyd llwyau caru'n fwy gofalus, ac fe'u rhoddwyd yn anrhegion fel arwydd o serch y cerfiwr.
Mae casgliad mawr o lwyau caru o bob lliw a llun yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r dyddiad 1667 ar gefn y cynharaf ohonynt. Mae'r llwyau yn y casgliad yn amrywio o rai syml i rai â phatrymau cymhleth, cewyll â pheli y tu mewn iddynt, a llwyau dwy fowlen.
Mae'r cerfiadau'n symbolaidd. Er enghraifft, mae'r ddraig yn symbol am warchod, mae diemwntau am lwc dda, ac mae croes gerfiedig ar lwy yn arwydd o ffydd y cerfiwr. Mae'n rhaid bod yn fedrus i wneud llwyau caru — nid yn unig oherwydd y patrymau a'r manylion cymhleth, ond hefyd gan fod rhaid eu gwneud o un darn o bren. Mae'n grefftwaith pur gan na ddefnyddiwyd glud na hoelion i'w gwneud.
Heddiw, rhoddir llwyau caru yn anrhegion priodas, ymddeol, neu fel swyndlysau i ddod â lwc dda.
Gwnewch eich llwy garu rhith eich hun.
Dyddiad yr erthygl: 4 Rhagfyr 2007




Dangos sylwadau
