Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Santes Catherine a'r Olwyn

Santes Catherine a'r Olwyn

Beth sydd gan dân gwyllt a pheintiad o eglwys ganoloesol yn gyffredin?

Santes Catheine
Murlun canoloesol o Eglwys Sant Teilo, sy'n dyddio o tua 1400.

Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan ar yr her o symud, ailgodi ac adfer eglwys ganoloesol o waith maen — un o'r projectau cyntaf o'i fath yn Ewrop. Yn ystod y broses ddatgymalu, dadorchuddiwyd nifer o furluniau prin o dan y waliau gwyngalch.

Santes Catherine.

Mae un o'r peintiadau hynaf a ddadorchuddiwyd yn dyddio o tua 1400-1430, ac mae'n cynrychioli'r Santes Catherine o Alexandria. Roedd wedi bod ynghudd am ganrifoedd dan haenau o wyngalch, a bu'n rhaid ei dynnu gan ddefnyddio cyllyll llawfeddygol.

Ar ôl dadorchuddio'r darlun cyfan, a thynnu'r haenau niferus o wyngalch yn ofalus, datgelwyd y Santes Catherine mewn gwisg o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n sefyll ger olwyn bigog, yn dal cleddyf.

Olwyn arteithio a chleddyf

Yr olwyn bigog wrth ei hochr yn y darlun yw'r offeryn arteithio a ddefnyddiwyd pan dedfrydwyd Catherine i farwolaeth am ei daliadau Cristnogol gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Maxentius (306-312). Yn ôl y chwedl, chwalodd yr olwyn pan gyffwrddodd Catherine â hi, felly torrwyd ei phen gan y cleddyf sydd yn ei llaw yn y darlun.

'Olwyn Gatrin'

Yr olwyn arteithio a gysylltir â'r Santes Catherine yw tarddiad yr enw 'Olwyn Gatrin' (Catherine Wheel) am yr olwyn dân gyffredin.

Gellir gweld yr eglwys orffenedig yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle mae'r murluniau wedi'u hatgynhyrchu'n fanwl a chelfydd i edrych fel y byddent wedi gwneud tua 1530. Gan fod y peintiad o'r Santes Catherine yn dyddio o tua 1400, nid oes cynrychioliad ohono yn yr adeilad a ailgodwyd gan y byddai wedi'i orchuddio'n llwyr erbyn 1530.

Mae'r peintiad gwreiddiol o Santes Catherine yn cael ei storio yn yr amgueddfa a gellir ei weld drwy wneud cais ymlaen llaw.

Dyddiad yr erthygl: 11 Ionawr 2007

+ Dangos sylwadau

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar