Cennau
[delwedd: ]
[delwedd: © K. Vint]
© K. Vint
[delwedd: © Gary M. Stolz / US FWS]
© Gary M. Stolz / US FWS
[delwedd: © U.S. FWS]
© U.S. FWS
[delwedd: © K. Vint]
© K. Vint
Daeth cennau i fod tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Heddiw, mae nhw o dan fygythiad oherwydd coedio a'r newid yn yr hinsawdd.
Mae cennau yn bodoli ym mhob lliw a llun. Maen nhw'n arbennig o amrywiol ym Mhrydain oherwydd ein hinasawdd oerllyd a gwlyb.
Maen nhw'n cael eu diogelu ym Mhrydain diolch i reolaeth gofalus ar ein coetiroedd.
Bywydeg
Gall cennau gynnwys 3 teyrnas o bethau byw; ffwng, alga a syanobacteria.
Mae gan y gwahanol gydrannau gyd-berthynas symbiotig. Mae'r ffwng yn dibynnu ar yr alga, ond gall yr alga fyw ar ei ben ei hun.
Mae'r alga neu'r syanobacteria yn cynhyrchu bwyd carbon ar gyfer y ffwng gan ddefnyddio'r golau (proses o'r enw ffotosynthesis).
Pob lliw a llun
Cennynog - cennau â llabedau fel cen.
Deiliog - cennau tebyg i ddail.
Ffrwctos - cennau ar sawl ffurf, fel rheol â changhennau silindrog.
Cramennog - cennau tebyg i gramennau.
Mae yna gennau o bob lliw. Mae rhai wedi cael eu defnyddio fel llifynnau naturiol mewn dillad arbenigol. Mae rhai yn bersawrus ac yn cael eu defnyddio gan y diwydiant persawr.
Hen fforestydd - hafan i gennau anghyffredin
Mae llawer o law a hinsawdd mwyn yng nghoetiroedd Cymru. Mae hyn yn cynnig lloches i rywogaethau cefnforol sy'n gyfyngedig i orllewin Ewrop.
Mae cennau'n brin yng nghoetiroedd Cymru erbyn hyn am fod yr hen fforestydd wedi cael eu dymchwel.
Nid yw coetiroedd masnachol yn addas ar gyfer cennau hen fforestydd am eu bod yn cael eu clirio, am nad oes yno hen goed ac am fod yna ormod o gysgod.
Systemau rhybuddio cynnar
Mae cennau yn agored iawn i lygredd a maetholion yn yr atmosffêr. Maen nhw'n ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd ac i reolaeth ar goetiroedd.
Gellir eu defnyddio i roi rybudd cynnar os yw'r llygredd yn codi. Ym Mhrydain, maen nhw wedi dangos bod llygredd yn lleihau gyda dirywiad y diwydiannau trwm.
Gellir dadansoddi cennau'n gemegol i weld pa wenwynau sydd yn yr atmosffêr.
Dyddiad yr erthygl: 24 Gorffenaf 2007
Themau
Geirfa
Cen y Coed
Cytrefi o ffyngau ac algâu sy'n tyfu ar arwyneb agored creigiau.
1 sylw
salima ar 25 Tachwedd 2008, 14:22
I was glad to read the info that you placed about lichens. But you know ut's easy to find all these everywhere. Why don't you try to put something special and exclusive? I think all lichenologists will be thankful. God bless you.
Gadael sylw