Fforestydd Glaw Belize
[delwedd: ]
[delwedd: © Juan Pablo Moreiras / FFI]
© Juan Pablo Moreiras / FFI
[delwedd: © Marco Lambertini / BirdLife]
© Marco Lambertini / BirdLife
[delwedd: © Juan Pablo Moreiras / FFI]
© Juan Pablo Moreiras / FFI
[delwedd: © Jeremy Holden / FFI]
© Jeremy Holden / FFI
Mae fforestydd glaw yn dal i orchuddio rhan helaeth o Belize, er bod ffermio, coedio a chorwyntoedd cyson yn golygu nad yw'r fforest mor iach ag y mae'n ymddangos. Mae'r diwydiant pren wedi cael dylanwad mawr hefyd.
Coedio cynnar yn Belize
Rhwng 1630 a 1770, roedd gwladychwyr a'u caethweision yncasglu pren yn Belize. Roedd y coed yn cael eu torri'n blociau a'u tynnu gan wartheg i'r afonydd i'w cludo i'r môr.
Ar ôl 1770, Mahogani oedd y prif rywogaeth a orgynaeafwyd. Defnyddiwyd injanau stêm i gludo'r plociau i'r afonydd mawr. Enillodd y gwladychwyr gyfoeth mawr o allforio'r pren.
Dirywiad coedio yn Belize
O ryw 1900 tan y 1960au cafodd Mahogani, pren Cedrwydd a Santa María eu coedio'n ddethol. Ychydig iawn o hen goed Mahogani sydd ar ôl heddiw, ac felly nid yw'n ddarbodus eu coedio - fodd bynnag, mae rhai coed eraill yn dal i gael eu coedio.
Mae gan Belize amrywiaeth eang o ddiwylliannau brodorol. Fodd bynnag, wrth i'r diwydiannau coedio ac olew symud i mewn, mae hen bobloedd y Maya yn cael eu gwthio allan. Mae hyn yn golygu bod diwylliant y Maya ac ecosystem y fforest ill dau yn diflannu.
Gwerth y fforestydd glaw
Mae rhyw 80% o fforestydd Belize yn gyfan o hyd yn wahanol i weddill Canolbarth America, ac mae'r wlad yn elwa ar yr ecodwristiaeth sy'n dilyn hyny. Mae'r bobl leol yn elwa ar werthu crefftau sy'n defnyddio deunyddiau o'r fforestydd glaw.
Rhaid i wledydd eraill ddilyn esiampl strategaeth gadwraeth Belize i warchod fforestydd glaw am eu bod yn:
- cynhyrchu ocsigen - nhw yw ysgyfaint y byd
- lleihau llygryddion e.e. carbon diocsid sy'n achosi cynhesu byd-eang
- cynnwys sawl rhywogaeth hanfodol
- yn ffynhonell meddyginiaethau posibl.
Megis dechrau mae gwyddonwyr wrth gatalogio rhywogaethau'r fforestydd glaw. Yma mae sbesimen o blanhigyn yn cael ei gasglu i'w enwi mewn amgueddfa.
Fforestydd glaw dan fygythiad - ym mhedwar ban y byd
Yn Swmatra, mae'r fforestydd yn dal i gael eu torri a'u clirio. Defnyddir y tir ar gyfer ffermio neu blanhigfeydd olew palmwydd, ond mae 1/3 yn cael ei adael fel tir prysg diffaith. Mae'r rhan fwyaf o'r pren caled sy'n cael ei glirio yn cael ei ddefnyddio i wneud mwydion pren.
Dyddiad yr erthygl: 24 Gorffenaf 2007
3 sylw
virginia ar 27 Medi 2010, 14:05
this was great information! keep it up!
stacey ar 3 Tachwedd 2008, 12:14
rydyw eisau gwybod beth yw enw cywir am y fforestydd glaw trofonnol ?
Amgueddfa Cymru ar 3 Tachwedd 2008, 12:14
Diolch am eich neges Stacey, fforestydd glaw trofannol yw'r enw Cymraeg cywir am 'tropical rain forest'.
Gadael sylw