Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Fforestydd Glaw Belize

Fforestydd Glaw Belize

© Juan Pablo Moreiras / FFI
© Juan Pablo Moreiras / FFI
© Marco Lambertini / BirdLife
© Marco Lambertini / BirdLife
© Juan Pablo Moreiras / FFI
© Juan Pablo Moreiras / FFI
© Jeremy Holden / FFI
© Jeremy Holden / FFI

Mae fforestydd glaw yn dal i orchuddio rhan helaeth o Belize, er bod ffermio, coedio a chorwyntoedd cyson yn golygu nad yw'r fforest mor iach ag y mae'n ymddangos. Mae'r diwydiant pren wedi cael dylanwad mawr hefyd.

Coedio cynnar yn Belize

Rhwng 1630 a 1770, roedd gwladychwyr a'u caethweision yncasglu pren yn Belize. Roedd y coed yn cael eu torri'n blociau a'u tynnu gan wartheg i'r afonydd i'w cludo i'r môr.

Ar ôl 1770, Mahogani oedd y prif rywogaeth a orgynaeafwyd. Defnyddiwyd injanau stêm i gludo'r plociau i'r afonydd mawr. Enillodd y gwladychwyr gyfoeth mawr o allforio'r pren.

Dirywiad coedio yn Belize

O ryw 1900 tan y 1960au cafodd Mahogani, pren Cedrwydd a Santa María eu coedio'n ddethol. Ychydig iawn o hen goed Mahogani sydd ar ôl heddiw, ac felly nid yw'n ddarbodus eu coedio - fodd bynnag, mae rhai coed eraill yn dal i gael eu coedio.

Mae gan Belize amrywiaeth eang o ddiwylliannau brodorol. Fodd bynnag, wrth i'r diwydiannau coedio ac olew symud i mewn, mae hen bobloedd y Maya yn cael eu gwthio allan. Mae hyn yn golygu bod diwylliant y Maya ac ecosystem y fforest ill dau yn diflannu.

Gwerth y fforestydd glaw

Mae rhyw 80% o fforestydd Belize yn gyfan o hyd yn wahanol i weddill Canolbarth America, ac mae'r wlad yn elwa ar yr ecodwristiaeth sy'n dilyn hyny. Mae'r bobl leol yn elwa ar werthu crefftau sy'n defnyddio deunyddiau o'r fforestydd glaw.

Rhaid i wledydd eraill ddilyn esiampl strategaeth gadwraeth Belize i warchod fforestydd glaw am eu bod yn:

  • cynhyrchu ocsigen - nhw yw ysgyfaint y byd
  • lleihau llygryddion e.e. carbon diocsid sy'n achosi cynhesu byd-eang
  • cynnwys sawl rhywogaeth hanfodol
  • yn ffynhonell meddyginiaethau posibl.

Megis dechrau mae gwyddonwyr wrth gatalogio rhywogaethau'r fforestydd glaw. Yma mae sbesimen o blanhigyn yn cael ei gasglu i'w enwi mewn amgueddfa.

Fforestydd glaw dan fygythiad - ym mhedwar ban y byd

Yn Swmatra, mae'r fforestydd yn dal i gael eu torri a'u clirio. Defnyddir y tir ar gyfer ffermio neu blanhigfeydd olew palmwydd, ond mae 1/3 yn cael ei adael fel tir prysg diffaith. Mae'r rhan fwyaf o'r pren caled sy'n cael ei glirio yn cael ei ddefnyddio i wneud mwydion pren.

Dyddiad yr erthygl: 24 Gorffenaf 2007

+ Dangos sylwadau

Gadael sylw


Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.


Forests.pdf
652 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar