Cacti

Teulu o blanhigion sy'n blodeuo o'r enw Cactaceae yw'r Cacti sy'n tyfu yn America yn unig. Mae pobl weithiau yn drysu rhwng y rhain ag Euphorbias, planhigion tebyg o gyfandir Affrica. Mae gan y ddau fath o blanhigyn ddail a choesynnau noddlawn a mae gan rai ohoynt bigau. Mae cacti yn tyfu yn yr anialwch ac mae rhai, fel Rhipsalis, yn glynu wrth goed.
Byw yn yr anialwch
Ffotosynthesis yw'r broses lle mae planhigion yn gwneud ynni o olau. Mae cacti yn defnyddio 'ffotosynthesis CAM', sef math arbennig o ffotosynthesis sy'n atal dŵr rhag dianc. Mae carbon diocsid, CO2, yn mynd i mewn drwy fandyllau yn y dail ac yn cael ei storio fel asid. Mae'r mandyllau yn cau yn ystod y dydd fel nad yw'r dŵr yn anweddu. Wedyn caiff yr asid ei ddefnyddio ar gyfer ffotosynthesis.
Cadw dŵr i mewn
Mae siâp crwn y rhan fwyaf o gacti yn lleihau maint yr arwyneb ac felly'n lleihau'r anweddiad. Mae'r croen cwyraidd hefyd yn helpu i atal dŵr rhag dianc. Mae pigau rhai cacti yn casglu gwlith, sy'n cael ei sianelu tua'r gwreiddiau. Mae gwreiddiau ar yr wyneb yn ddelfrydol i gasglu dwr o gawodydd glaw sydyn.
Opuntias Goresgynnol (Pêrs pigog)
Ffermiwyd Opuntias yn y byd newydd i ddenu cochbryfed, oedd yn cynhyrchu llifyn coch oedd yn ddymunol iawn i bobl Ewrop. Pan darganfuwyd y gyfrinach am sut i gynhyrchu'r llifyn, amaethwyd Opuntias ym mhedwar ban y byd. Maen nhw wedi lledu i'r wlad gyfagos a dod yn bla yn y llefydd hyn. Mae eu pigau mawr yn golygu nad oes modd pori yn agos atynt. Opuntias yw'r unig rywogaeth o gacti sydd heb gael ei chynnwys ar restr o rywogaethau sydd dan fygythiad.
Cacti dan fygythiad
Mae'r holl gacti (heblaw Opuntias) ar y rhestr CITES o rywogaethau dan fygythiad. Ni chaniateir eu symud rhwng gwledydd heb drwydded; pwrpas hyn yw rhwystro pobl rhag casglu cacti gwyllt a lleihau'r niwed i gynefinoedd anialdir bregus. Mae rheolau tynn ar werthu cacti.
Dyddiad yr erthygl: 23 Gorffenaf 2007





Gadael sylw