Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Pan hwyliai llongau Cymru'r moroedd

Y Breconian

[delwedd: Y Breconian]

Y Breconian

Adeiladwyd The Breconian ym 1906; cafodd ei chofrestru yn Aberystwyth a bu Cymry'n ei hwylio dros foroedd y byd am 30 mlynedd. Mae'r portread ohoni, sef un o'r darluniau diwydiannol o longau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn rhoi cipolwg eithriadol o ddifyr i ni ar yr oes a fu.

Darluniau o Longau

Ceir rhyw 250 o ddarluniau o longau yng nghasgliadau diwydiannol Amgueddfa Cymru. Ychydig o'r rhain y gellid eu disgrifio fel celfyddyd gain ond maent yn archif hynod werthfawr o hanes morwriaeth yng Nghymru. Gwaith 'arlunwyr pen pier' yn ardal Môr y Canoldir yw'r rhan fwyaf ohonynt. Am dâl bychan, byddai'r rheiny'n tynnu lluniau lliwgar syml o long ar gyfer y perchennog, y capten neu aelodau'r criw.

Yn wreiddiol, byddent yn tynnu parau o luniau, y naill o'r llong ar fôr tawel a'r llall mewn storm. Er nad yw'r lluniau hyn yn gelfyddyd gain, maent yn rhai manwl-gywir o safbwynt technegol. Roedd perchnogion y lluniau — perchennog y llong yn gymaint â gwraig y capten — yn ymfalchïo ynddynt ac roedd iddynt werth sentimental.

Llong ac iddi Gynllun Newydd

[delwedd: Y Breconian yn disgwyl dadlwytho grawn yn Rotterdam, 1907 ]

Y Breconian yn disgwyl dadlwytho grawn yn Rotterdam, 1907

Llun heb ei lofnodi o'r Breconian mewn storm yw hwn. Adeiladwyd y llong ager ar gyfer John Mathias & Sons o Aberystwyth. Roedd yn anghyffredin gan fod y dec yn gulach nag arfer a bod y dec tyredau a osodwyd ar gorff y llong yn ymestyn o'r blaen i'r starn. Roedd y cynllun newydd hwn yn golygu bod y llong yn fwy proffidiol i'w rhedeg. Roedd y cynllun mor llwyddiannus nes bod 429 o longau deciau tyred wedi'u hadeiladu rhwng 1892 a 1911.

Cychwynnwyd y cwmni oedd biau'r Breconian ym 1869 pan benderfynodd John Mathias, perchennog uchelgeisiol siop lysiau o Aberystwyth, fentro i fyd y llongau, gan brynu'r sgwner Miss Evans.

Ym 1883, symudodd o longau hwyliau i longau ager, gan ffurfio'r Glanrheidol Steamship Company Limited. Erbyn i'r Breconian ymuno â fflyd Mathias, roedd y busnes wedi cymryd yr enw mawreddog The Cambrian Steam Navigation Company Limited. Roedd gan y cwmni saith llong wedi'u henwi, braidd yn anghyffredin, ar ôl ysgolion bonedd. Oherwydd hyn, roedd llongwyr yng Nghaerdydd yn galw'r cwmni yn 'the College line'.

Y Breconian, a enwyd ar ôl Coleg Crist, Aberhonddu, oedd yr unig long a enwyd ar ôl ysgol yng Nghymru; enwau'r lleill oedd Etonian, Harrovian, Rugbeian, ac ati.

Glo Allan, Grawn yn Ôl

Fel y rhan fwyaf o longau cargo'r cyfnod, byddai'r Breconian yn hwylio'n bennaf yn y fasnach 'glo allan, grawn yn ôl', gan gludo glo o dde Cymru i bedwar ban byd a dod â llwyth o rawn yn ôl. Cymry fyddai'r rhan fwyaf o'r criw; ym 1911, Capten David Jones o Aberystwyth oedd y capten ac roedd 20 o'r criw o 28 yn dod o drefi a phentrefi arfordir Cymru.

Ym 1917, gwerthwyd y Breconian i'r Tyneside Line Limited o Newcastle ac ym 1926 gwerthwyd hi eto i berchennog llongau o Genoa o'r enw Giovanni Bozzo. Cafodd ei hailenwi'n Lorenzo Bozzo ganddo ef ar ôl ei fab. Chwe blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei chwalu. Erbyn heddiw, dim ond y darlun sydd ar ôl i'n hatgoffa o un agwedd ar ddiwydiant llongau llewyrchus Cymru a'r llongwyr medrus o Gymru a fu'n hwylio moroedd y byd.

Dyddiad yr erthygl: 6 Gorffenaf 2007

8 sylw

Lisa Mathias ar 19 Chwefror 2013, 22:35

Hi my great Grandfather is the said John Mathias ..

its nice to see pitures of the ship

Amgueddfa Cymru ar 17 Chwefror 2011, 10:22 (Staff Amgueddfa Cymru)

Annwyl Heledd,
Diolch am eich sylwadau - mae manylion am wneud ymchwil i hanes morwrol Cymru ar ein tudalen Ymchwil Hanes Morwrol.

Amgueddfa Cymru ar 10 Chwefror 2011, 16:12 (Staff Amgueddfa Cymru)

Dear Peter Blake -

Please find guidance on researching Welsh Maritime history on our Marine History Research pages.

Peter Blake ar 10 Chwefror 2011, 16:07

I am looking for photo's & info on the folowing.
1)The Old Louisa of Cardiff on the Taff Estury
2)The Port of Aberthaw
3)The steam driven ships Lord Dufferin (Built in 1898 Newcastle & The Gladys Built in Newcasle 1908 both of which My grand father Reginald Blake served on as an engineer.
my email peter@angleviews.com - Thanks for your excelent museum

Hedydd Hughes ar 6 Ebrill 2009, 09:06

Mae gennyf ddiddordeb i ymchwilio i longau a adeiladwyd yn Abergwaun, (yn arbennig efallai y 'Gwaun Maid')a hanes yr harbwr yno yn gyffredinol. Oes gyda chi gynghorion, os gwelwch yn dda?

w davies ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

How can I find the history of ships that sailed out of Cardigan owned by the Davies family of Castle Green?
eg. The Albion, Triton, Sarah Ann, Active.

wdavies@wanadoo.fr

Amgueddfa Cymru ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

Thank you for your comment - you may find the following publication of use: J. Geraint Jenkins, Maritime Heritage: the ships and seamen of southern Ceredigion (Gomer Press, 1982) also the statutory shipping registers of the port of Cardigan held by the Ceredigion Archives at Aberystwyth (01970-633697, archives@ceredigion.gov.uk)

ElizabethThomas ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

I am interested in the history of the ships that sailed out of Aberdovey and particularly those with crews from Borth. eg the Jane Jones skippered by John Jones.

Gadael sylw


Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

ships.pdf
1145 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: