Adfer Gardd Rosod
Maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif ar gyrion Caerdydd yw Castell Sain Ffagan. Fe'i rhoddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Ym 1947, daeth Sain Ffagan yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac ers hynny datblygodd yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Un peth sy'n denu pobl yw gerddi hardd y castell, yn cynnwys gardd rosod hynod brydferth. Ar ôl cael ei hesgeuluso am flynyddoedd, aed ati i ailgynllunio'r Ardd Rosod a'i hadfer i'w hen ogoniant.
Cynllun 1899
Mae hen ffotograffau'n dangos gardd furiog, drionglog. Cychwynnwyd yr ardd hon ym 1899 yn dilyn cynllun a baratowyd gan y prif arddwr newydd, Hugh Pettigrew (1871—1947), a hyfforddwyd yng ngerddi Kew.
Rhestr o Rosod o 1904
Seiliwyd cynllun yr Ardd Rosod ar gyfres o gylchoedd ac roedd yn cynnwys dyfrffos, pergolas, delltwaith a llwybrau cysylltiol. Plannwyd 124 o wahanol fathau o rosod mewn 19 pâm blodau. Llwyddwyd i ail-greu cynllun gwreiddiol yr ardd o'r rhestr o rosod a luniwyd gan Pettigrew ym 1904.
Archaeoleg yr Ardd
Gyda'r gwaith adfer, daeth cyfle i wneud tipyn o archaeoleg arbrofol — darganfuwyd gwaith teils rhyw 18" (45cm) o dan y pridd lle bu'r ddyfrffos, yn dangos gwely gwreiddiol y gamlas.
Canfuwyd bod pedwar darn bychan o'r gamlas wreiddiol heb eu dinistrio gan eu bod yn gorwedd o dan y llwybrau tywyrch newydd a osodwyd ym 1950. Roedd digon o sylfeini waliau'r ddyfrffos ar ôl i gadarnhau bod teils cochion wedi bod arnynt hwythau ar un adeg hefyd.
Ailblannu'r Pamau Rhosod
Bu'n rhaid chwilio am gyflenwyr rhosod a chafwyd cryn drafferth i ddod o hyd i rai mathau o rosod. Roedd rhai o'r mathau y llwyddwyd i ddod o hyd iddynt yn dueddol o ddioddef ymosodiadau o lwydni a'r gawod goch. Fodd bynnag, dangosodd hyn pa anawsterau y byddai garddwyr yn eu hwynebu ar droad y ganrif ddiwethaf hefyd.
Ond roedd clywed persawr llawer o'r hen fathau yn gwneud yr holl waith yn werth y drafferth. Erbyn hyn, mae rhan gyntaf y prosiect wedi'i chwblhau, y cynllun a baratowyd gan Pettigrew ym 1899 yn cael ail fywyd a'r gwaith yn parhau. Rydym yn dal i chwilio am rosyn te o'r enw 'Mrs Stephen Treseder', hen fath o rosyn y credir iddo gael ei ddatblygu ym Meithrinfa Treseder yng Nghaerdydd.
Dyddiad yr erthygl: 6 Gorffenaf 2007



Dangos sylwadau
