Tirlun Rhamantaidd trawiadol
Mae Samuel Palmer yn un o arlunwyr tirluniau pwysicaf Prydain o'r Cyfnod Rhamantaidd. Tirlun o'r enw 'Codiad yr Ehedydd ['The Rising of the Lark'] yw'r cyntaf o ddarluniau Palmer i gyrraedd casgliadau Amgueddfa Cymru.
Derbyniwyd 1990; Rhodd; Sidney Leigh trwy Gronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Samual Palmer (1805-51)
Mab llyfrwerthwr o Lundain oedd Samuel Palmer. Cyfarfu Palmer â William Blake (1757-1827) ym 1824 a chafodd y bardd a'r arlunydd arbennig hwn ddylanwad mawr ar ei waith.
Ymgartrefodd Palmer ym mhentref Shoreham yng Nghaint. Aeth ati i greu iaith symbolaidd, gan ddefnyddio'i luniau i ddathlu ffrwythlondeb a symlrwydd gwledig y byd cyn y chwyldro diwydiannol.
Roedd gwaith diweddarach Palmer yn fwy confensiynol a naturiolaidd. Teithiodd i Gymru a rhannau eraill o Brydain tua dechrau'r 1830au, ond ni chafodd ei ysbrydoli gymaint yn unman ag yn Shoreham.
Ar ôl priodi â Hannah, merch yr arlunydd John Linnell (1792-1882), roedd yn tueddu i dynnu lluniau i geisio bodloni gofynion y farchnad.
Cerdd yn ysbrydoli
Ysbrydolwyd Codiad yr Ehedydd gan linellau o L'Allegro gan y bardd John Milton (1608-1674), un o ffefrynnau'r arlunydd:
'To hear the lark begin his flight,
And, singing, startle the dull night,
From his watch-tower in the skies,
Till the dappled dawn doth rise,'
Trwy ddarlunio'r wawr yn torri a chân lawen yr ehedydd, mae Palmer yn awgrymu cychwyn newydd. Mae'n bosib bod y bugail sy'n agor y giât i'r oen fynd trwyddi i'r tiroedd eang y tu hwnt yn symbol o gychwyn bywyd newydd.
Seiliodd Palmer y darlun olew hwn ar ddyluniad manwl a dynnodd tua diwedd ei gyfnod yn Shoreham. Ysgrifennodd ei fab Alfred Herbert Palmer am y llun yn ei fywgraffiad, 'Life of Samuel Palmer'. Awgrymodd fod ei dad wedi'i baentio yn fuan ar ïl dychwelyd o'r Eidal ym 1839.
Y Cyfnod Rhamantaidd
Mae'r llun hwn yn perthyn i'r Cyfnod Rhamantaidd. Yn y cyfnod hwn, roedd llawer o arlunwyr, cerddorion ac awduron yn ceisio ail-greu ffordd wledig o fyw a oedd, yn eu barn nhw, yn cael ei cholli oherwydd dyfodiad diwydiant.
Dyddiad yr erthygl: 6 Gorffenaf 2007
Dangos sylwadau
Gadael sylw
Geirfa
Cyfnod Rhamantaidd
Symudiad artistig, llenyddol a deallusol o Orllewin Ewrop yn y 18fed ganrif yw'r cyfnod Rhamantaidd. Roedd yn adwaith yn erbyn y rhesymoliad gwyddonol o natur mewn celfyddyd a llenyddiaeth.
Naturiolaidd
Yn disgrifio celf lle portreadir y testun mor agos â phosibl at y ffordd y mae'r llygad dynol yn ei weld.




