Ceffylau yng nglofeydd Cymru
Merlod pwll glo
Bu ceffylau'n gweithio yn y diwydiant glo ers y dyddiau cynnar. Byddent yn cario glo o'r glofeydd i'r cwsmer, yn gweithio injans dirwyn a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, yn symud glo o'r ffas i'r siafft.
Ym 1878, cyfrifodd yr RSPCA bod dros 200,000 o geffylau'n gweithio mewn glofeydd ym Mhrydain.
Er mai 'merlod pwll glo' oedd yr enw cyffredin arnynt, ceffylau, yn hytrach na merlod, oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ddefnyddid ym mhyllau glo Cymru.
Ceffylau 13 llaw
Fel rheol, roeddent tua 15 llaw o uchder (10cm yw 'llaw' ac mae ceffylau'n cael eu mesur i'r ysgwydd). Fodd bynnag, roedd rhai merlod, tua 13 llaw, yn cael eu defnyddio i dynnu llwythi ysgafn.
Er eu bod yn gwneud gwaith hanfodol yn y glofeydd cyn cyflwyno peiriannau cludo, bu'r defnydd a wnaed o geffylau yn y diwydiant glo yn ddadleuol iawn ar hyd y blynyddoedd.
Dadleuai perchnogion y glofeydd na ellid gwneud hebddynt yn y broses economaidd o gloddio glo ond roedd eraill o'r farn bod eu gwneud i weithio fel hyn yn greulon.
Offeryn propaganda
Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr. Efallai eu bod nhw'n cydymdeimlo â'r ceffylau ond, yn aml, gallent anwybyddu creulondeb neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain pe bai eu pecyn pae o dan fygythiad.
Pa un bynnag ai cydweithiwr bodlon ynteu gaethwas truenus oedd y ceffyl, roedd yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glowyr eu hunain. Cafodd y ceffylau eu defnyddio fel offeryn propaganda gan y ddwy ochr yn ystod anghydfodau diwydiannol; bu cannoedd farw o ganlyniad i gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau ond, heb eu gwaith caled, ni fyddai'r chwyldro diwydiannol wedi llwyddo.
Atgofion
Rwy'n cofio Edgar, haliwr bychan, oedd yn arfer dweud wrth ei geffyl bob bore 'Wyt ti'n mynd i weitho i fi heddi?' Yna byddai'n rhoi afal iddo. Roedden nhw'n fwy o bytis (cydweithwyr) na gweithiwr a cheffyl!
Len Howell, Glofa Six Bells, 1960au.
Roeddent yn cael eu rhoi yng ngofal bechgyn hurt a fyddai'n camddefnyddio'r cyfrifoldeb a ymddiriedwyd iddynt heb ofni cael eu cosbi. Roeddent yn aml yn gweithio shifftiau dwbl o 16 awr yn ddi-dor ac yn cael eu cadw dan y ddaear am flynyddoedd heb weld golau dydd. Ni fyddent yn cael unrhyw archwiliad o werth ac roedd eu bywydau'n fanllef o brotest yn erbyn creulondeb ac anghyfiawnder.
The Animal World, Medi 1918.
Dyddiad yr erthygl: 1 Ionawr 2009



Dangos sylwadau
