Casgliad mwyaf y byd o borslen de Cymru yn mynd i ocsiwn.
Mae ocsiynau fel arfer yn ddigwyddiadau cymharol dawel, yn cael eu mynychu gan lond dwrn o bobl. Nid dyma'r achos yng ngwerthiant casgliad y diweddar Syr Leslie Joseph o grochenwaith a phorslen Cymreig a gynhaliwyd gan Sotheby's ym 1992. Gwerthwyd dros 2,000 o wrthrychau mewn 900 lot am dros £1.1 miliwn. Nid oedd llwyddiant yr arwerthiant yn syndod, gan mai dyma'r casgliad mwyaf a chyfoethocaf o borslen Abertawe a Nantgarw yn y byd.
Syr Leslie Joseph
Ganwyd Syr Leslie Joseph yn Abertawe ac fe gafodd yrfa fusnes hir, a arweiniodd at fod yn is-gadeirydd y grŵp Trusthouse Forte. Prynodd ei ddarn cyntaf o borslen Cymreig cyn yr Ail Ryfel Byd. Yn y 1950au dechreuodd lunio casgliad a fyddai yn y pen draw yn llenwi'r cypyrddau ymddangos a oedd yn leinio pum ystafell atig ei dŷ ger Porthcawl.
Serameg Nantgarw ac Abertawe
Ei nod oedd sicrhau esiamplau o bob siâp a phatrwm a wnaed yng nghrochendai Abertawe a Nantgarw. Yn wahanol i nifer o gasglwyr, roedd yn barod i brynu darnau wedi'u difrodi pe byddent o gymorth iddo ddysgu mwy am yr amrywiaeth o borslen a gynhyrchwyd yn y ddwy ffatri. Dros y blynyddoedd adeiladodd wybodaeth helaeth o serameg Cymreig, ac yn arbennig y marciau sgript a ddefnyddiwyd ar borslen Abertawe. Ym 1988 cyhoeddodd y llyfr Swansea Porcelain: Shapes and Decoration gyda A.E. Jones, sy'n gofnod gwerthfawr o lwyddiannau'r ffatri honno.
Roedd Syr Leslie, a wasanaethodd ar Bwyllgor Celf Amgueddfa Cymru am nifer o flynyddoedd, yn hael iawn, ac fe ganiataodd i nifer o gasglwyr ac ysgolheigion fanteisio ar y casgliad a'i wybodaeth helaeth.
Roedd gwerthiant casgliad Joseph yn her ac yn gyfle i Amgueddfa Cymru. Gan yr Amgueddfa mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o grochenwaith a phorslen Cymreig, sy'n cynnwys dros 3,000 o ddarnau. Dros y blynyddoedd diweddar mae'r Amgueddfa wedi ceisio gwneud y casgliad serameg mor gynhwysfawr ag sy'n bosib. Roedd nifer o wrthrychau yng nghasgliad Joseph a oedd o ddiddordeb, ond golygai'r gyllideb bod yn rhaid gwneud penderfyniadau am ba rhai oedd bwysicaf i'r casgliad.
Roedd prisiau yn yr arwerthiant yn uchel iawn. Derbyniodd Amgueddfa Cymru 33 lot, ar gost o £98,000. Talwyd bron i drydedd rhan y costau gan grantiau allanol, a'r tri darn unigol drytaf gan brynwyr eraill ar ran yr Amgueddfa.
Prynwyd nifer fechan o wrthrychau prin a hardd ar gost uchel. Roedd un yn lestr hufen iâ o set Gosford Castle. Roedd hon yn set melysfwyd Abertawe adnabyddus a addurnwyd yn Llundain â sbesimenau botanegol. Hefyd prynodd yr Amgueddfa blât Nantgarw, wedi'i beintio'n gywrain gyda cholomennod ar ymyl basin o ddŵr, hefyd wedi'u haddurno yn Llundain.
Enwyd yr Oriel Serameg Cymreig, sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn Oriel Joseph, er cof am Syr Leslie Joseph, un o brif gymwynaswyr Amgueddfa Cymru.
Dyddiad yr erthygl: 16 Mai 2007



Dangos sylwadau

