Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd

Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd

Ogof Pontnewydd

Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar.
Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Wrth gloddio yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych, cafodd archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru hyd i'r gweddillion dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru, esgyrn yn dyddio'n ôl tua 230,000 o flynyddoedd.

Ym mherfeddion yr ogof y darganfuwyd y rhan fwyaf o'r pedwar dant ar bymtheg a gafodd eu sgubo danddaear gan ddŵr tawdd adeg enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymru gyfan, yn ôl pob tebyg, yn ystod Oes yr Iâ. Yn ôl arbenigwyr yn yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain, mae'r dannedd yn nodweddiadol o ddynion Neanderthalaidd cynnar.

Neanderthalaidd cynnar

Gorfant plentyn tua 8 oed.
Gorfant plentyn tua 8 oed.

Roedd y bobl Neanderthalaidd yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol y credir iddi ddarfod tua 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr un oedd eu hynafiad hwy â'r rhywogaeth y perthynwn ni iddi, ond ni esblygodd yr hil ddynol bresennol o'r bobl Neanderthalaidd.

Roedd y dynion Neanderthalaidd yn gymharol fyr a byrdew a chanddynt wrymiau o dan eu haeliau, genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw.

Drwy astudio'r dannedd a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd sylweddolwyd eu bod yn cynrychioli pump o unigolion.

Danedd Neanderthalaidd

Dant Neanderthalaidd
Dant Neanderthalaidd cynnar (chwith), a llun pelydr-X (dde). Mae'r llun pelydr-X yn dangos ceudod bywyn mawr a fu'n gymorth i archaeolegwyr adnabod dannedd Pontnewydd a'u priodoli i ddynion Neanderthalaidd.

Dengys lluniau pelydr-X o'r holl ddannedd yr un nodwedd ddiddorol, sef tawrodontiaeth - dannedd ac iddynt geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai. Mae tawrodontiaeth yn nodwedd neilltuol (ond nid unigryw) o ddannedd Neanderthalaidd, a chyffredinolrwydd y cyflwr hwn sydd wedi darbwyllo arbenigwyr mai pobl Neanderthalaidd oedd trigolion Ogof Pontnewydd ac nid bodau dynol cynharach.

Roedd plant ifanc ac oedolion ymhlith y rhai oedd yn byw yn Ogof Pontnewydd. Y darganfyddiad mwyaf cyflawn y cafwyd hyd iddo ar y safle yw darn o orfant plentyn tua 8 oed. Yn y rhan hon o'r ên gellir gweld un dant sugno, sydd wedi'i dreulio'n arw, y drws nesaf i gilddant arhosol sydd newydd ymddangos. Pe bai'r plentyn hwn wedi cael byw, byddai'r dant newydd wedi diwreiddio'r dant sugno ymhen amser.

Bwyd yr Neanderthalaidd

Ogof Pontnewydd
Cloddiwyd Ogof Pontnewydd gan archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Codwyd y mur ar draws mynedfa'r ogof yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd y câi Ogof Pontnewydd ei defnyddio fel storfa arfau.

Ni chafwyd hyd i'r dannedd ar eu pennau eu hunain y tu mewn i'r ogof. Mewn cysylltiad â hwy, darganfuwyd arfau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ag olion bwtsiera ar rai ohonynt - tystiolaeth mai'r esgyrn hyn oedd gweddillion prydau bwyd y dynion Neanderthalaidd cynnar a drigai yn yr ogof.

Ni wyddys p'un ai a gafodd y bodau dynol hyn eu claddu'n wreiddiol mewn beddau yn yr ogof. Gwaetha'r modd, mae'r grymoedd a fu'n gyfrifol am gadw'r dannedd yng nghrombil Ogof Pontnewydd wedi dinistrio unrhyw olion o'r man lle roeddent yn gorwedd yn wreiddiol.

Darllen Cefndir

Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan S. Green ac E. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991).

In search of the neanderthals: solving the puzzle of human origins gan C. Stringer a C. Gamble. Cyhoeddwyd gan Thames and Hudson (1993).

Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984).

Dyddiad yr erthygl: 1 Medi 2007

+ Dangos sylwadau

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar