Fflintiau o goedwigoedd Cymru
[delwedd: Phil Shepherd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda rhai o'r darganfyddiadau y mae wedi eu casglu dros y 25 mlynedd diwethaf.]
Phil Shepherd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda rhai o'r darganfyddiadau y mae wedi eu casglu dros y 25 mlynedd diwethaf.
[delwedd: Casgliad bach o fflintiau Mesolithig diweddarach o Gefn Rhos-gwair (Rhondda Cynon Taf); maent yn dyddio o 7500-4000CC.]
Casgliad bach o fflintiau Mesolithig diweddarach o Gefn Rhos-gwair (Rhondda Cynon Taf); maent yn dyddio o 7500-4000CC.
[delwedd: Casgliad o grafelli fflint o Garn-y-bwlch (Rhondda Cynon Taf). ]
Casgliad o grafelli fflint o Garn-y-bwlch (Rhondda Cynon Taf).
[delwedd: Pen saeth o Luest Wen (Rhondda Cynon Taf), yn dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar (3400-2500CC).]
Pen saeth o Luest Wen (Rhondda Cynon Taf), yn dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar (3400-2500CC).
Mae gwaith un gŵr wedi ein helpu ni i ddeall yn well sut fywyd oedd hi ar ucheldiroedd de Cymru yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar.
Dros gyfnod o 25 mlynedd, mae'r coedwigwr Phil Shepherd wedi chwilio'n systematig am arfau fflint cynhanesyddol wrth iddo baratoi tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer plannu neu dorri coed. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Phil wedi darganfod 1,636 o ddarnau unigol o fflint ac aeth â phob un ohonynt i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, fel rhodd ar ran y Comisiwn Coedwigaeth.
Yn 2000, enillodd Phil Wobr Darganfyddwr y Flwyddyn Tarmac yn seremoni Gwobrau Archaeolegol Prydain am ei ofal wrth sicrhau bod yr holl fflintiau y mae ef a'i gydweithwyr yn eu darganfod yn ystod eu gwaith yn cael eu cofnodi'n gywir a'u dwyn i sylw arbenigwyr.
Mae llawer o'r fflintiau y mae Phil wedi eu darganfod yn rhychau'r coedwigoedd yn amrywio o ran eu hoedran o'r cyfnod Mesolithig cynnar (9200CC) hyd yr Oes Efydd (tua 2000CC). Mae cyfanswm nifer y safleoedd Mesolithig hysbys ar ucheldiroedd de Cymru wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'w ddarganfyddiadau niferus.
Yn ystod y cyfnod Mesolithig roedd yr hinsawdd yn gynhesach ac yn fwy gwlyb ac roedd cyfran helaeth o'r dirwedd dan orchudd o goed derw, llwyfain, bedw a chyll. Prin iawn fyddai'r conwydd a gysylltir â choedwigoedd Cymru heddiw.
Dim ond tua diwedd y cyfnod hwn (tua 4000CC) y dechreuodd pobl ddifa'r coedwigoedd at ddibenion ffermio cynnar, ac o ganlyniad dinoethwyd llawer o'r ucheldiroedd nes y crëwyd y planhigfeydd coedwigaeth mwy diweddar.
Gall darganfyddiadau ar wyneb y tir, fel y rhai y mae Phil a'i gydweithwyr yn eu ffeindio, ddarparu gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r ffordd o fyw mewn rhannau arbennig o'r wlad. Mae pob darn yn adrodd ei stori ei hun, fel yr hanesion a groniclir gan gapsiynau lluniau'r erthygl hon.
Darllen Cefndir
Treasure gan R. Hobbs. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (2003).
Prehistoric Wales gan F. Lynch, S. Aldhouse-Green a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Sutton (2000).
Dyddiad yr erthygl: 11 Mai 2007
2 sylw
joe moore.www.moorejoebet@aol.com ar 14 Ebrill 2009, 13:38
i live in TYWYN,GWYNEDD.have found a piece of flint on the north side of TYWYN on the beach.it is nugget shape and about 2"long. i would just like to know were it came from !!!
joe moore
karlfran@talktalk.net ar 3 Tachwedd 2008, 12:14
any good arears ov intrest clydach vale i just got a metal detector but interrestid in history in R C T area fossles roman age bronze age ect good read very interesing than you karl francis
Gadael sylw