Fflintiau o goedwigoedd Cymru
Mae gwaith un gŵr wedi ein helpu ni i ddeall yn well sut fywyd oedd hi ar ucheldiroedd de Cymru yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar.
Dros gyfnod o 25 mlynedd, mae'r coedwigwr Phil Shepherd wedi chwilio'n systematig am arfau fflint cynhanesyddol wrth iddo baratoi tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer plannu neu dorri coed. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Phil wedi darganfod 1,636 o ddarnau unigol o fflint ac aeth â phob un ohonynt i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, fel rhodd ar ran y Comisiwn Coedwigaeth.
Yn 2000, enillodd Phil Wobr Darganfyddwr y Flwyddyn Tarmac yn seremoni Gwobrau Archaeolegol Prydain am ei ofal wrth sicrhau bod yr holl fflintiau y mae ef a'i gydweithwyr yn eu darganfod yn ystod eu gwaith yn cael eu cofnodi'n gywir a'u dwyn i sylw arbenigwyr.
Mae llawer o'r fflintiau y mae Phil wedi eu darganfod yn rhychau'r coedwigoedd yn amrywio o ran eu hoedran o'r cyfnod Mesolithig cynnar (9200CC) hyd yr Oes Efydd (tua 2000CC). Mae cyfanswm nifer y safleoedd Mesolithig hysbys ar ucheldiroedd de Cymru wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'w ddarganfyddiadau niferus.
Yn ystod y cyfnod Mesolithig roedd yr hinsawdd yn gynhesach ac yn fwy gwlyb ac roedd cyfran helaeth o'r dirwedd dan orchudd o goed derw, llwyfain, bedw a chyll. Prin iawn fyddai'r conwydd a gysylltir â choedwigoedd Cymru heddiw.
Dim ond tua diwedd y cyfnod hwn (tua 4000CC) y dechreuodd pobl ddifa'r coedwigoedd at ddibenion ffermio cynnar, ac o ganlyniad dinoethwyd llawer o'r ucheldiroedd nes y crëwyd y planhigfeydd coedwigaeth mwy diweddar.
Gall darganfyddiadau ar wyneb y tir, fel y rhai y mae Phil a'i gydweithwyr yn eu ffeindio, ddarparu gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r ffordd o fyw mewn rhannau arbennig o'r wlad. Mae pob darn yn adrodd ei stori ei hun, fel yr hanesion a groniclir gan gapsiynau lluniau'r erthygl hon.
Darllen Cefndir
Treasure gan R. Hobbs. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (2003).
Prehistoric Wales gan F. Lynch, S. Aldhouse-Green a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Sutton (2000).
Dyddiad yr erthygl: 11 Mai 2007



Dangos sylwadau

