Caer Rufeinig Brynbuga
Datgelodd cloddiadau yn y 1960au gaer oedd unwaith yn gartref i Ugeinfed Leng Rhufain.
William Camden (1551-1623) oedd y cyntaf i gofnodi'r cysylltiad rhwng y Rhufeiniaid a Brynbuga (Sir Fynwy), gan gyfeirio at y dref fel safle Burrium. Fodd bynnag, dim ond ar ddiwedd y 1960au y daethpwyd o hyd i leng-gaer gynnar o dan ran ddeheuol y dref.
Yn ôl pob tebyg, fe'i codwyd tua OC55 gan yr Ugeinfed Leng fel canolfan ar gyfer goresgyniad de Cymru, ac fe'i lleolwyd i reoli'r llwybrau i'r gwastadeddau arfordirol tua'r de ac i fryniau a mynyddoedd Brycheiniog tua'r gogledd.
Arwynebedd y gaer oedd 19.5 hectar (48 erw) a châi ei hamddiffyn gan ffos allanol ar ffurf V, a rhagfur o glai a thywyrch â ffesin o bren. Ar ben y rhagfur roedd llwybr, ambell i dŵr pren a phorth ar y naill ochr a'r llall.
Datgelodd cloddiadau helaeth rhwng 1965 a 1976 ddau grŵp o ysguboriau - a ddefnyddiwyd i storio'r nwyddau angenrheidiol i fwydo byddin fawr y goresgyniad - gweithdy a rhan o dŷ swyddog, i gyd wedi'u codi o bren. Awgryma gwaith mwy diweddar efallai fod catrawd o farchfilwyr cynorthwyol (a elwid yn ala) wedi'i lleoli yma gyda milwyr y lleng.
Yn dilyn ad-drefnu'r fyddin Rufeinig yn OC66 neu 67, trosglwyddwyd yr Ugeinfed Leng o Frynbuga i Wroxeter (Sir Amwythig). Sefydlodd y symudiad hwn linell o gaerau yn ymestyn o Gaer-wysg i Lincoln, ac o ganlyniad disodlwyd y gaer ym Mrynbuga.
Fodd bynnag, roedd Brynbuga yn nwylo a than ofal garsiwn bach tan OC74-75, pan sefydlwyd lleng-gaer newydd wyth milltir i lawr y dyffryn yng Nghaerllion (Casnewydd) - man oedd yn llai tebygol o ddioddef llifogydd ac yn haws i'w gyflenwi o'r môr. Hyd yn oed wedyn, ni chefnodd y Rhufeiniaid yn gyfan gwbl ar Frynbuga, ac ar safle'r gaer sefydlwyd caer atodol/uned waith fach. Daeth oes y gaer i ben cyn diwedd y ganrif gyntaf OC, ond mae'n ymddangos y bu'r uned waith yn weithredol dros gyfnod hirach o lawer.
Heddiw, nid oes unrhyw ran o'r gaer wedi goroesi uwchlaw'r ddaear i ddynodi'r rhan y chwaraeai'r dref fach hon yng ngoresgyniad Cymru. Cafodd y gaer ei ddatgymalu'n systematig gan y Rhufeiniaid ac mae unrhyw ddarnau o bren a adawyd ar ôl wedi hen bydru a diflannu.
Darllen Cefndir
Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1968-71 gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1981).
Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1972-74 and Minor Excavations on the Fortress and Flavian Fort gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1989).
Dyddiad yr erthygl: 10 Mai 2007





Gadael sylw