Segontium - Y Rhufeiniaid yng Nhogledd Cymru
Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium yn OC77 ac roedd garsiwn yno hyd tua OC394. Ni feddiannwyd unrhyw gaer Rufeinig arall yng Nghymru am gymaint o amser.
O'r afon y daw enw Segontium: 'grymus' yw ystyr 'sego-', elfen sydd ynghudd yn yr enw Seiont. Mae i'r gaer, un o'r enwocaf ym Mhrydain, leoliad allweddol yn y rhwydwaith milwrol Rhufeinig, gan ei bod mewn man canolog ar brif ffyrdd arfordir y gogledd a'r gorllewin. Mae'r gaer yn sefyll ar gopa bryn llydan a chrwn sy'n edrych dros afon Menai ac Ynys Môn.
Datgelodd gwaith cloddio archaeolegol a wnaed rhwng 1975 a 1979 nifer o flociau o farics pren yn y chwarter de-ddwyreiniol oedd yn dyddio o ddiwedd y ganrif gyntaf a blynyddoedd cynnar yr ail ganrif OC. Mae hyn yn dangos bod y gaer wedi cael ei chynllunio i letya 'cohors milliaria', sef catrawd o filwyr traed cynorthwyol oedd yn cynnwys hyd at 1,000 o ddynion.
Mae tystiolaeth bendant fod maint y garsiwn yn llai o lawer erbyn tua OC 120. Ganol yr ail ganrif codwyd tŷ cwrt mawr, a chanddo'i faddondy bach ei hun, yn y gornel dde-ddwyreiniol. Mae'n bosibl mai cartref swyddog pwysig a oedd, efallai, yn gyfrifol am gloddio mwynau yn yr ardal oedd y tŷ trawiadol hwn.
Yn gynnar yn y drydedd ganrif, y garsiwn oedd Cohort Cyntaf Sunici, catrawd o 500 o filwyr traed gafodd ei recriwtio yn yr Almaen. Mae enw'r uned yn ymddangos mewn arysgrif sy'n cofnodi atgyweirio traphont ddŵr y gaer tua OC200.
Roedd y garsiynau ar gyfer y rhan fwyaf o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif yn llai o lawer. Yn ystod y cyfnod hwn prif swyddogaeth Segontium oedd amddiffyn arfordir gogledd Cymru rhag ysbeilwyr a môr-ladron o Iwerddon. Mae darnau arian a ffeindiwyd yn Segontium yn dangos bod milwyr yn y gaer allweddol hon tan OC394.
Yr angen i amddiffyn tiroedd ffrwythlon a llawn mwynau Môn sy'n esbonio'r preswyliad anarferol o hir hwn. Segontium oedd pencadlys milwrol a gweinyddol y gogledd-orllewin drwy gydol y cyfnod Rhufeinig.
Sicrhaodd adfeilion Segontium le iddi mewn chwedlau, ymhell ar ôl i'r milwr Rhufeinig olaf gefnu ar y gaer. Cyfeirir at Segontium ym Mreuddwyd Macsen, un o chwedlau'r Mabinogion.
Ni ddaeth arwyddocâd milwrol Caernarfon i ben ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, oherwydd yn yr Oesoedd Canol sefydlwyd mwnt (twmpath y codwyd castell arno) Normanaidd ar lan aber afon Seiont ac yna, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, adeiladwyd castell enwog Edward I ynghyd â'r dref furiog sydd ynghlwm wrtho; ac yn olaf ym 1775 codwyd caer fach ger aber afon Menai.
Darllen Cefndir
Excavations at Segontium (Caernarfon) Roman Fort, 1975-1979', gan P. J. Casey a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Council for British Archaeology (1993).
'Roman & Early Medieval Wales' gan C. J. Arnold a J. L. Davies. Sutton Publishing (2000).
'Segontium and the Roman Occupation of Wales' gan R. E. M. Wheeler. Yn Y Cymmrodor, cyf. 33 (1923).
Dyddiad yr erthygl: 9 Gorffenaf 2007



Dangos sylwadau

