Caerllion - Dinas y Lleng Rufeinig
Yn gartref i Ail Leng Awgwstaidd Rhufain am dros ddwy ganrif, Caerllion yw'r gaer Rufeinig orau, o ran ei chyflwr, yng Nghymru.
Caerllion (Casnewydd) yw'r unig leng-gaer barhaol o fewn ffiniau'r Gymru fodern. Fe'i sefydlwyd yn OC74 neu 75 a garsiynwyd y gaer gan yr Ail Leng Awgwstaidd, a fu'n gwasanaethu mewn gwahanol rannau o dde Prydain ers y goresgyniad Rhufeinig yn OC43. Yr enw y rhoddodd y Rhufeiniad ar y gaer oedd Isca, ar ôl enw'r afon, yr Wysg, gerllaw.
Mae cloddiadau yng Nghaerllion ers y 1920au wedi ein galluogi ni i greu portread lled gyflawn o'r gaer.
Y Safle
Clostir hirsgwar 490m wrth 418m (535 x 457 llath) yw'r gaer ac iddi arwynebedd o 20.5ha (50 acer).
I'r de-orllewin ceir maes parêd ac amffitheatr, ac y tu hwnt iddynt cafwyd hyd i wahanol adeiladau anheddiad sifil.
I ddechrau, codwyd amddiffynfeydd o bridd a choed ond cafodd rhai cerrig eu rhoi yn eu lle tua OC100. Yng nghanol y gaer, o dan yr eglwys blwyf bresennol, safai'r pencadlys (principia) ac y drws nesaf iddo dŷ'r prif swyddog. Yn ogystal, darganfuwyd weddillion baddonau'r gaer, ysbyty, tai swyddogion a gwahanol weithdai. Ond byddai dros hanner yr arwynebedd wedi cynnwys blociau barics i gartrefu'r milwyr cyffredin - dros 5,000 ohonynt. Codwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau hyn o bren yn y lle cyntaf; ond yn raddol, o'r ail ganrif ymlaen, fe'u hailadeiladwyd o gerrig.
Caerllion oedd pencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd am dros ddau gan mlynedd, er y byddai unedau o'r lleng wedi cael eu lleoli mewn mannau eraill yn aml yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'n debyg yr oedd y gaer ar ei prysuraf ym mlynyddoedd olaf y ganrif gyntaf ac yn gynnar yn yr ail. Wedi'r cyfnod hwn, gwyddys y bu'r lleng wrthi'n codi Mur Hadrian ar draws gogledd Lloegr, rhwng Merin Rheged ac afon Tyne. Eto i gyd, dim ond ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad Antoninus Pius (OC138-161) y bu gostyngiad sylweddol ym mhoblogaeth Caerllion, newid a ddynodai ymrwymiad cadarnach o lawer i'r achos yng ngogledd Lloegr.
Ddiwedd yr ail ganrif, dechreuwyd datgymalu'r gaer er y cafodd y gwaith ei wrthdroi mewn dim o dro. Mae'n bosibl fod a wnelo'r gwaith datgymalu â chynllun yr ymerawdwr Septimius Severus (OC193-211) i ail-leoli'r lleng yng ngogledd Prydain, ac yna aeth y gwaith o'i hailadeiladu rhagddo yn sgil penderfyniad ei fab, Caracalla, i ymadael â'r Alban.
Tua OC300 ymadawodd y lleng â Chaerllion am y tro olaf a chafodd llawer o brif adeiladau'r gaer eu dymchwel. Yn ôl pob tebyg, roedd hyn yn gysylltiedig â gweithredoedd y ddau gamfeddiannwr Carausius ac Allectus (OC287-96), oherwydd wedi iddynt gipio'r awenau ym Mhrydain bu rhaid iddynt amddiffyn de Lloegr rhag ymosodiad disgwyliedig dan arweiniad y ddau ymerawdwr swyddogol, Diocletian a Constantius.
Heb os nac oni bai, câi rhai adeiladau yng Nghaerllion eu defnyddio hyd ganol y bedwaredd ganrif a rhoddwyd wyneb newydd ar rai o'r strydoedd wedi OC346-8; ond prin yw'r darnau arian ôl-350, sy'n awgrymu nad oedd fawr ddim gweithgarwch ar y safle ar ôl y dyddiad hwn.
Erbyn OC1188, pan ymwelodd Gerallt Gymro â'r safle, roedd y gaer yn adfail urddasol.
Darllen Cefndir
Caerllion a'r Fyddin RufeinigCaerleon Roman Fortress gan J. K. Knight. Cyhoeddwyd gan Cadw: Henebion Cymru (2003).
Isca: The Roman Legionary Fortress at Caerleon, Mon gan G. C. Boon. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1972).
The Legionary Fortress of Caerleon-Isca gan G. C. Boon. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1987).>
Dyddiad yr erthygl: 9 Mai 2007
Dangos sylwadau
Gadael sylw
Geirfa
Amffitheatr
Adeilad cyhoeddus o'r cyfnod Clasurol (cysylltiedig â Rhufain hynafol yn arbennig) a ddefnyddiwyd ar gyfer gwylio chwaraeon, gêmau ac arddangosfeydd.




