Crochenwaith gwydrog gwyrdd o Holt
Mae llestri gwydrog o unrhyw fath yn anodd i'w cynhyrchu ac yn brin ym Mhrydain cyn y Canol Oesoedd. Fodd bynnag, cynhyrchwyd nifer cyfyngedig o'r llestri hyn yn Holt, ar lan afon Dyfrdwy, a Chaerllion yn ystod y cyfnod Rhufeinig.
Holt oedd canolfan gynhyrchu a dosbarthu crochenwaith yr Ugeinfed Leng (Legio XX Valeria Victrix. Roedd crochenwyr Holt yn arbenigo mewn gwneud crochanwaith o bob lliw a llun, ac mae peth o'u cynnyrch yn dangos eu soffistigedigrwydd technolegol.
Cynhyrchwyd y llestri gwydrog gwyrdd gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd gyntaf yn yr Aifft yn ystod y mileniwm cyntaf cyn Crist.
Yn ôl pob tebyg, cafodd y dull hwn ei fabwysiadu yn Holt er mwyn sicrhau y gallai'r milwyr barhau i fwynhau'r moethusion roeddent wedi dod yn gyfarwydd â hwy mewn mannau eraill o fewn ffiniau'r ymerodraeth.
Y Broses:
- Trochi llestr, a oedd eisoes wedi'i grasu unwaith, mewn ffrit (daliant o wydredd crai a dŵr). Pan gaiff y llestr ei danio mae'r ffrit yn adweithio â'r silica yn y pot gan ffurfio wyneb gwydrog anathraidd, caled y gall ei liw amrywio o felyn golau i felynwyrdd i frown tywyll.
Problemau:
- Pan gaiff y llestri eu tanio mae'r gwydredd yn hylifo, ac os caiff ei orboethi mae'n debygol o redeg yn ormodol (os yw hyn yn digwydd gall y potiau asio â'i gilydd).
- Gall nwyon brwnt, poeth yn yr odyn effeithio ar yr adwaith cemegol, gan beri i'r gwydredd bothellu neu newid ei liw.
Atebion:
- Llwyddodd crochenwyr Holt i oresgyn y problemau hyn drwy danio eu potiau ar brop wedi'i osod mewn sagar (blwch o glai wedi'i danio, a ddefnyddiwyd i amddiffyn pot yn ystod tanio).
- Byddai llestr oedd wedi'i drochi mewn gwydredd yn cael ei osod ar ben y prop. Yna, gosodwyd clawr ar ben y sagar oedd yn cynnwys y prop a'r llestr. Yn y modd yma gellid rheoli'r amgylchedd o amgylch y llestr yn ystod y tanio
Mae'n debyg fod y gwaith cynhyrchu yn ei anterth yn Holt rhwng 87 ac 135 OC, yn ystod y cyfnod pan adeiladwyd y gaer yng Nghaer. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, parhaodd peth gwaith cynhyrchu hyd y drydedd ganrif OC
Darllen Cefndir
'A collection of samian from the legionary works-depot at Holt' gan M. Ward. Yn Form and Fabric: Studies in Rome's material past in honour of B. R. Hartley gan J. Bird, tt133-43. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1998).
'Holt, Denbighshire: the works depot of the twentieth Legion at Castle Lyons' gan W. F. Grimes. Yn Y Cymmrodor, cyf. 41. Cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion (1930).
'The Lead Glazed Wares of Roman Britain' gan P. Arthur. Yn Early Fine Wares in Roman Britain gan P. Arthur a G. Marsh, tt293-356. Cyhoeddwyd gan British Archaeological Reports (1978).
Dyddiad yr erthygl: 9 Ebrill 2007



Dangos sylwadau

