Gem yng nghoron y casgliad tecstilau
Cwilt clytwaith wedi'i wneud o 4,525 darn gwahanol o frethyn
Mae gan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru dros 15,000 o wahanol decstilau yn ei gofal. Uchafbwynt y casgliad enfawr hwn yw'r 'cwrlid' neu'r cwilt clytwaith. Cafodd ei greu ym 1842 gan James Williams, prif deiliwr o College Street, Wrecsam, mae'n cynnwys dros bedair mil a hanner o ddarnau o frethyn, ac fe gymerodd dros 10 mlynedd i'w gwblhau.
O garpiau i gyfoeth
Gwneir cwrlidau clytwaith yn aml drwy wnïo darnau o ddefnydd sydd dros ben, er enghraifft darnau o hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwrlid drwy ailgylchu amrywiaeth o wahanol fathau o frethyn. Hen lifrau milwrol oedd y rhan fwyaf ohonynt, ac mae'r cynllun cyfan yn gybolfa o liwiau glas, brown, llwyd golau a choch. Yn syfrdanol, mae'r cwrlid cyfan yn cynnwys 4,525 o wahanol ddarnau o frethyn, wedi'u gwnïo at ei gilydd fel mosaig anferth.
Diwydiant mewn celfyddyd
Mae'r cwrlid yn ddarn o gelfyddyd gwerin clasurol. Mae'r cynllun a'r dull o'i wneud yn dangos dawn greadigol y teiliwr yn glir, yn ogystal â'i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei gyfnod. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai (a gwblhawyd gan Telford ym 1826). Mae traphont fawreddog Cefn ger Wrecsam (a gwblhawyd ym 1848), gyda'i fwâu main, yng nghanol y darn, a chymerwyd y pagoda Tsieineaidd sydd yn y gornel uchaf ar y dde o blât patrwm helyg, mae'n debyg.
Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd — Arch Noa a cholomen yn cario cangen olewydden, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Darnau unigol o frethyn wedi'u gwnïo â llaw yw'r holl smotiau brown mân ar y jiràff.
Darllen Cefndir
Mary Jenkins a Clare Claridge, Making Welsh Quilts: the Textile Tradition that Inspired the Amish? (Newton Abbot: David and Charles, 2005).
Jen Jones, Welsh Quilts (Carmarthen: Towy Publishing, 1997).
Christine Stevens, Quilts (Llandysul: Gomer Press in association with the National Museum of Wales, 1993).
Dyddiad yr erthygl: 16 Ebrill 2007



Dangos sylwadau
