Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Ym 1992 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa.
Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd.
[delwedd: Swyddfa Bost lleiaf Cymru, yn Blaenwaun, Dyfed]
Swyddfa Bost lleiaf Cymru, yn Blaenwaun, Dyfed
[delwedd: Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru]
Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Swyddfa Bost y Wlad
Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt.
Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr.
Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar.
Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau.
Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa.
Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng.
Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991.
Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.
Dyddiad yr erthygl: 1 Ionawr 2008
11 sylw
lolly ar 1 Gorffenaf 2011, 09:14
wow amazing
Amgueddfa Cymru ar 1 Hydref 2010, 10:16
Dear Alan, thank you for your comment - No, none of the buildings that have been moved to St Fagans were listed.
In fact, it is one of the prerequisites that we only move non-listed, threatened buildings.
That said, several buildings have been listed once they have been re-built here - listed as examples of traditional buildings that have been re-erected in an open-air museum!
Gerallt Nash, Senior Curator, Historic Buildings.
Alan James ar 1 Hydref 2010, 09:00
Were any of the historic buildings classed as "listed buildings" before they were moved?
sally skinner ar 4 Chwefror 2010, 15:17
I found this info fasinating. Poor Mrs Griffiths seemed to work so hard as well as bringing up a family.Alot of women did not have it easy in the old days, we realy should count our blessings.
Dawn Davis, Australia ar 4 Ionawr 2010, 11:45
Several years ago we visited this fantastic place. The memories are still with us now, some ten years later. Very well worth spending a whole day here, as we did.
aimee and angharad jones (: ar 14 Ebrill 2009, 08:56
this was a very interesting piece of information. I thuroughly enjoyed read it (: the visit to the museum was more than helpfull to me, as i have to visit one to complete my key skills at college.
xx
emma griffiths ar 14 Ebrill 2009, 08:55
my great grandad and grandmother's post office!!
x
jon lennon ar 20 Ionawr 2009, 14:25
its amazing i can not wait to go again
steven carvell ar 19 Ionawr 2009, 10:00
i love it
Daphne G Davies ar 3 Tachwedd 2008, 12:14
Sir/Madam, I wrote a comment but because I went further down and decided to e-mail the article to myself for easy keeping;my comment went with the wind. I was unable to re-read the comment or save it so I apologise that I shall not send more than thank you today for saving a way of Welsh life, yet again, for the future to see. Just one of our hundreds of Post Offices.Sincerely
Amgueddfa Cymru ar 3 Tachwedd 2008, 12:14
Dear Daphne - apologies that you original comment disappeared before you could send it, we appreciate your thoughts and feedback and are glad you found the site to be of interest.
Gadael sylw