Rydych chi yn: Rhagor > Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Ym 1922 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa.

Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd.

Swyddfa Bost lleiaf Cymru, yn Blaenwaun, Dyfed
(Cliciwch i fwyhau)
Swyddfa Bost lleiaf Cymru, yn Blaenwaun, Dyfed
Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
(Cliciwch i fwyhau)
Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Swyddfa Bost y Wlad

Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt.

Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr.

Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar.

Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau.

Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa.

Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng.

Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991.

Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.

Dyddiad yr erthygl: 1 Ionawr 2008

+ Dangos sylwadau

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar