Hafan 'Aur Dan y Rhedyn'
Llywio'r dudalen categorïau
- Neidio i'r erthyglau yn ôl lleoliad
- Neidio i'r porwr categorïau
- Neidio i'r nodweddion
- Neidio i'r erthyglau
Dyma hen ddywediad llafar gwlad a oedd ar arfer gynt, yn arbennig gan amaethwyr, ac sy'n cyfeirio at ansawdd y tir. Dewiswyd y geiriau 'aur dan y rhedyn' fel pennawd i'r casgliad hwn yn benodol oherwydd eu bod yn awgrymu'r cyfoeth o ddeunydd sydd wedi'i ddiogelu yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, er pan sefydlwyd hi yn 1946 ac yr agorwyd hi i'r cyhoedd yn 1948, ac yn arbennig ers pan ddechreuwyd gwneud arolwg o draddodiadau llafar Cymru yn 1957.
Y mae'r deunydd presennol a gynhwysir yn y rhaglen 'Aur Dan y Rhedyn' wedi'i ddethol o blith eitemau sy'n ymwneud yn bennaf â llên gwerin ac a recordiwyd ar dâp (ac eithrio dwy eitem) gan y Dr Robin Gwyndaf, fel rhan o'i waith maes yn yr Amgueddfa Werin yn ystod 1964-2010 (c. 750 awr o recordiad: c. 18,000 eitem). Yn yr adran ar 'Hen Emynau Llafar Gwlad', yn arbennig, cynhwysir hefyd ddeunydd a gofnodwyd ar bapur ac mewn llawysgrifau. Y mae'r adran hon, dylid ychwanegu, yn llawer hwy na'r adrannau eraill. Ar wahân fod y cynnwys yn arbennig o ddiddorol, y rheswm pennaf am hyn yw na chafwyd un casgliad hwylus a chynhwysfawr o emynau gwerin ers bron gan mlynedd.
Map views:
Articles
Related articles from Rhagor
Storytellers
A selection of folk narratives from the extensive collections in the sound archive at St Fagans
Museums
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales operates seven national museums across Wales.
Art works
A selection of art works from Art Collections Online.
Pori themâu cysylltiedig
Ymerodraeth a Diwydiant - Gweithdai'r Byd
19fed Ganrif
Yr 20fed Ganrif
Yr 21ain Ganrif
Adeiladau hanesyddol Sain Ffagan
Mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol yng Nghymru wedi'u hailgodi ar ein parcdir can erw.