Breuddwydion Chwyldroadol: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste
Honore Daumier (1808 - 1879)
Jean-François Millet (1814 - 1875)
Olew ar gynfas
Casgliad y Chwiorydd Davies
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)
Jean-François Millet (1814 - 1875)
Louis Eugène Benassit (1833 - 1904)
Honore Daumier (1808 - 1879)
Louis Eugéne Boudin (1824 - 1898)
Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU. Yma gwelwn golwg or newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau'r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.
Canrif y Chwyldro
Penderfynodd arlunwyr gofnodi hanes cymdeithasol a gwleidyddol cythryblus Ffrainc ar gynfas, yn enwedig y newidiadau mewn bywyd bob dydd ac yn nisgwyliadau pobl. Esgorodd Chwyldro 1789, pan sefydlwyd y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, ar ganrif o wrthdaro ac ansicrwydd i'r boblogaeth. Er bod ambell artist yn ceisio portreadu digwyddiadau'r dydd, roedd eraill yn ceisio ail-gyfl eu'r hen draddodiadau coll.
Chwyldro a Realaidd
Academi Celfyddyd Gain y wladwriaeth a'i harddangosfa swyddogol, y Salon, oedd yn llywio cyfeiriad celf Ffrengig o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, dechreuodd llawer o arlunwyr herio'r Academi a'r Salon. Mae llawer o'r paentiadau yn dangos eu bod yn torri'r traddodiad ac yn dechrau mabwysiadu arddull fodern newydd. Dechreuodd mwy a mwy o arlunwyr gefnu ar y ffi gyrau Beiblaidd a'r arwyr Rhufeinig a oedd yn rhemp ar waliau'r Salon.
Yn Cerbyd Trydydd-dosbarth, mae Honoré Daumier yn cyfeirio at ddyfais allweddol y ganrif, sef trên stêm. Ar y llaw arall, mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cyfl wyno portread o ffermwyr a delfryd o gefn gwlad Ffrainc. Er eu bod nhw'n baentiadau tra gwahanol, mae thema gyffredin iddynt, sef portreadu bywyd cyfoes a dirodres bob dydd.
Dyma pryd y dechreuodd artistiaid Ffrengig beintio fel hyn; dull y cyfeirir ato'n aml fel peintio 'Realaidd'. Y newidiadau yng nghynnwys lluniau fraenarodd y tir ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn Gelf Fodern heddiw.
Ansicrwydd Gwleidyddol
Ar ôl i'r Brenin Siarl X gael ei ddiorseddu gan Chwyldro Gorffennaf 1830, daeth Louis-Phillippe yn frenin tan iddo yntau gael ei ddisodli gan Chwyldro mis Chwefror 1848. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Ail Weriniaeth gan roi'r hawl i ddynion bleidleisio ac addewid o ddemocratiaeth. Er hynny, mae'r modd y ffrwynwyd gwrthryfel y gweithwyr yn chwyrn ym mis Mehefi n y fl wyddyn honno, les journées de Juin, yn dangos fod yr hen rwystredigaeth yno o hyd. Mae Gweithwyr ar y Stryd Daumier yn cyfl eu'r tensiynau hyn ac fel petai'n rhagweld y digwyddiadau hyn. Roedd ei luniau'n beirniadu'r gwahaniaethau parhaus rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.
Mae llun diweddarach Millet, Yr Heuwr, yn pwysleisio'r bywyd gwerinol a llafurio ar y tir. Roedd amaethyddiaeth yn rhan ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol Ffrengig, ac roedd Millet yn tristau'n fawr o weld cymaint yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.
Ym 1870, dechreuodd Ffrainc ryfela yn erbyn Prwsia gyda goblygiadau trychinebus. Ffodd llawer o arlunwyr i ddiogelwch cefn gwlad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Millet a adawodd Barbizon i chwilio am loches ar arfordir Normandi. Ar ôl dychwelyd, aeth ati i beintio Y Chwa o Wynt; portread o nerth a grym dychrynllyd y storm sy'n cyfl eu newid a dinistr rhyfel. Mae Yr Enciliad gan Louis Eugene Benassit yn dangos ymateb mwy uniongyrchol.
Hamdden
Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y dosbarth canol neu'r bourgeoisie yn gyfoethocach diolch i'r newidiadau yn strwythur y dosbarthiadau cymdeithasol yn Ffrainc.
Dechreuasant awchu am nwyddau moeth amrywiol, o'r rhad i'r technolegol. Yn fwy na dim, roeddynt yn hoffi paentiadau a oedd yn eu dangos yn hamddena ac yn pwysleisio'u statws newydd mewn cymdeithas. Dechreuodd arlunwyr ymateb trwy wneud paentiadau a oedd at ddant y gynulleidfa gynyddol newydd hon.
Dyfeisiwyd y trên stêm ym 1804, ac o fewn hanner can mlynedd, roedd rheilffyrdd yn cael eu gosod ar hyd a lled Ffrainc. Mae Cinio yn y Wlad gan Daumier ac Y Traeth yn Trouville gan Boudin yn portreadu'r ymwelwyr dosbarth canol.
Yn ogystal ag adlewyrchu'r datblygiadau chwyldroadol ym myd trafnidiaeth a thwristiaeth, dechreuodd arlunwyr frwsio'n rhydd gyda lliwiau llachar i gyfl eu awyrgylch o fwyniant a phleser pur. Cafodd y defnydd chwyldroadol hwn o olau a brwsio rhydd ddylanwad aruthrol ar arddull newydd maes o law — Argraffi adaeth.
Mewnod a'r Aelwyd
Mae golygfeydd o fenywod yn rhan amlwg iawn o'n casgliad o baentiadau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny, mae'n ddiddorol nodi mai artistiaid gwrywaidd beintiodd yr holl luniau hyn, felly rydym yn edrych arnynt o safbwynt dynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, gallwn ddechrau deall rôl y fenyw mewn cymdeithas.
Mae Y Baich Trwm gan Daumier yn dangos gweithgareddau'r ferch dosbarth gweithiol, tra bod paentiadau eraill yn portreadu merched hardd a ffasiynol o ddosbarth uwch. Dengys hyn bod rhaniadau rhwng y rhywiau a dosbarth cymdeithasol yn dal mewn grym ar ôl y Chwyldro.
Boed yn brysur wrth eu gwaith neu ar eu heistedd yn oddefol, gellir dehongli'r lluniau hyn fel drych o'u sefyllfa mewn cymdeithas.
Dyddiad yr erthygl: 22 Mawrth 2012



Dangos sylwadau
