Cronfa ddata
Mae'r gronfa ddata'n cynnwys dros 11,000 o gofnodion yn ymwneud â thros 4,800 o ddyddiadau radiocarbon o tua 1,300 o safleoedd. Yn anochel, oherwydd maint yr adnodd, mae didoli data, prawfddarllen a delio ag ymholiadau yn dipyn o her. Mae'r adran hon o'r wefan yn rhoi gwybodaeth a all fod o gymorth i fynd i'r afael â'r materion hyn:
Crynodeb o'r newid
Gwybodaeth am ddatblygiad parhaus y project o'r amser y cyhoeddwyd y gronfa ddata ymlaen.
Nodiadau maes a chwmpas
Disgrifiad sylfaenol o'r mathau o wybodaeth sydd ym mhob colofn o'r gronfa ddata.
Defnyddio'r gronfa ddata
Cyflwyniad i'r mathau o feddalwedd y gellir eu defnyddio i holi'r gronfa ddata a'r math o chwilio y gellir ei wneud gan ddefnyddio taenlen.
Amodau a thelerau
Telerau defnyddio y byddwch chi'n cytuno iddynt os gofynnwch chi am gopi o'r gronfa ddata. Ni ddylid diystyru'r rhan hynod bwysig yma o'r wefan.
Gofyn am gronfa ddata
Sut i gael copi o'r gronfa ddata i'w defnyddio eich hun.

Moel y Gaer, Sir y Fflint
Ail-greu'r fryngaer o'r Oes Haearn.
Cofnodwyd pump ar hugain o ddyddiadau radiocarbon o'r safle hwn.

Fferm Breach, Bro Morgannwg
Claddfa 'saethwr' o'r Oes Efydd.
Cofnodwyd dau ddyddiad radiocarbon o'r safle hwn.

Gwernvale, Powys
Beddrod megalithig uwchben olion cynharach.
Cofnodwyd pedwar dyddiad radiocarbon o'r safle hwn.

Ogof Pen-y-fai, Abertawe
Ail-greu'r bedd palaeolithig.
Cofnodwyd chwe deg o ddyddiau radiocarbon o'r safle hwn ers 1968.







