Amodau a thelerau
Mae cronfa ddata Radiocarbon Cymru a'r Gororau yn cael ei darparu o dan delerau Creative Commons Attribution-Non-Commercial-Share Alike 2.0 UK: England & Wales Licence. Yn gryno, mae'r drwydded hon yn caniatáu i chi:
- gopïo, dosbarthu a chyhoeddi'r gwaith
- gwneud gwaith sy'n deillio ohoni.
Ar yr amod eich bod chi'n:
- cydnabod gwaith yr awduron gwreiddiol (Steve Burrow a Siân Williams, Amgueddfa Cymru).
- peidio â defnyddio'r gwaith at ddibenion masnachol.
- ac, os byddwch chi'n newid, gweddnewid neu'n datblygu'r gwaith hwn, eich bod chi'n dosbarthu'r gwaith hwnnw o dan drwydded sy'n union fel hon yn unig.
Gwarant:
Darperir y gronfa ddata hon heb warant. Mae'n deillio o gronfa ddata a gynlluniwyd i'w defnyddio'n fewnol ac sydd ar gael yma ar ffurf sydd wedi'i dilysu'n rhannol. Ni ddylid dibynnu ar unrhyw wybodaeth sydd ynddi heb yn gyntaf adolygu cynnwys y cyfeirnod yn y llyfryddiaeth a ddyfynnir ym mhob cofnod o'r gronfa ddata.
Dylid nodi hefyd y gall dehongli dyddiadau radiocarbon fod yn broses gymhleth. Dylai'r defnyddiwr feddu ar wybodaeth dda am ddamcaniaeth ac ymarfer dyddio radiocarbon a dadansoddi cyn defnyddio'r gronfa ddata hon.







