Dadansoddiadau
Adnodd yw'r gronfa ddata hon ac nid cynnyrch gorffenedig; felly, mae mor werthfawr â'r defnydd a wneir ohoni yn unig.
Er mwyn rhoi cipolwg ar ei photensial dyma rai dadansoddiadau data cyffredinol.
Dyddio esgyrn pobl
Gorolwg sylfaenol o amrediad dyddiadau sy'n deillio o esgyrn pobl, sy'n dangos potensial maes 'deunydd sampl' y gronfa ddata.
Dosbarthiad dyddiau radiocarbon
Gorolwg o ddosbarthiad daearyddol dyddiadau ar draws ardal yr astudiaeth, gan ddangos potensial meysydd y cyfeirnodau grid y gronfa ddata.
Nifer y dyddiadau sy'n ymwneud â phob canrif
Dadansoddiad sylfaenol o amrediad dyddiadau radiocarbon ar draws amser, gan ddangos y defnydd o feysydd graddnodi'r gronfa ddata.
Cyfradd twf mewn dyddiadau / cyhoeddiadau
Astudiaeth o ddatblygiad gwybodaeth am radiocarbon dros amser, gan ddangos potensial maes cyfeirio o ran llyfryddiaeth y gronfa ddata.

Cefn Graeanog, Gwynedd
Ail-greu anheddiad canoloesol sylweddol.
Cofnodwyd dros ddeg ar hugain o ddyddiadau radiocarbon o'r safle yma a safleoedd cyfagos.

Gwernvale, Powys
Beddrod megalithig uwchben olion cynharach.
Cofnodwyd pedwar dyddiad radiocarbon o'r safle hwn.

Fferm Breach, Bro Morgannwg
Claddfa 'saethwr' o'r Oes Efydd.
Cofnodwyd dau ddyddiad radiocarbon o'r safle hwn.

Waun Fignen Felen, Powys
Ardal palaeoamgylcheddol a safle hela Mesolithig.
Cofnodwyd naw deg wyth o ddyddiadau radiocarbon o'r safle hwn.







