Rydych chi yn: Hafan > Amdanom ni > Gweithio gydag eraill
English
Oriel y Parc, Tyddewi
Oriel y Parc, Tyddewi

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o’i hymrwymiad i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol.

Rydym ni wedi datblygu dau gynllun partneriaeth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau lleol Cymru: Cyfoeth Cymru Gyfan a Celf Cymru Gyfan.

Yn ogystal, rydym ni’n cydweithio’n agos mewn ffyrdd eraill gyda phartneriaid rhanbarthol allweddol trwy Gymru gan gynnwys Oriel y Parc, oriel Awdurdod Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Stori Caerdydd.

Oriel y Parc

Bwrw Gwreiddiau: Sutherland a’r Dirwedd Ramantaidd (16 Mawrth - 18 Gorffennaf 2013)

Graham Sutherland, Black Landscape, 1930-40 (ar fenthyg o'r Tate).

Cafodd y lleoliadau y gweithiodd yr artist Graham Sutherland (1903-1980) ynddynt ddylanwad mawr arno ac yn ystod y 1930au datblygodd weledigaeth bersonol iawn o dirwedd Sir Benfro.

Yn ogystal â gwaith ar fenthyg o gasgliadau Amgueddfa Cymru, bydd yr arddangosfa yn cynnwys benthyciad o waith pwysig gan Sutherland o gasgliadau’r Tate, sef Tirwedd Ddu. Paentiwyd Tirwedd Ddu rhwng 1939 a 1940, a dyma un o’r enghreifftiau orau o waith cynnar Sutherland yn Sir Benfro.

Mae Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cydweithio yn Oriel y Parc, lle mae gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn cael eu cyfuno gydag arddangosfeydd o’r casgliadau cenedlaethol i ddathlu’r dirwedd.

Mynediad am ddim, ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch. Am wybodaeth am ddigwyddiadau, gweler gwefan Oriel y Parc.

Ar agor 10am-4pm bob dydd (ar gau 26-26 Rhagfyr).

Ffurfiwyd Ffrindiau Oriel y Parc yn 2011 i godi broffeil, gefnogi ac i gymorthwyo Oriel Tirluniau Oriel y Parc, Tyddewi.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.friendsoforielyparc.co.uk

Mae cynlluniau cyfredol cyffrous arall yn cynnwys:

Agorodd Amgueddfa Stori Caerdydd ei drysau ar 1 Ebrill 2011. Dyma’r amgueddfa gyntaf yng Nghaerdydd fydd yn adrodd hanes y ddinas ei hun.

Amgueddfa Stori Caerdydd
Amgueddfa Stori Caerdydd

Bu’r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd, a bu tîm Stori Caerdydd yn gweithio’n agos â staff Amgueddfa Cymru drwy gydol y project.

Meddai Victoria Rogers, Stori Caerdydd:

Chwaraeodd Amgueddfa Cymru rôl ymgynghorydd cefnogol gan ddarparu cyngor ar bopeth o fanyleb ein casys amgueddfa, y larymau a’r monitorau amgylchedd gorau a’r gweithdrefnau posibl ar gyfer staff blaen tŷ.

Y pleser pennaf o gydweithio â nhw yw ein bod wedi medru benthyg gwrthrychau o’r casgliad cenedlaethol i’w harddangos yn ein hamgueddfa. Mae gan Gaerdydd stori anhygoel i’w hadrodd, ond doedd dim lleoliad i adrodd yr hanes tan nawr.

Wrth greu ein horielau newydd buom yn ymgynghori tipyn â’r cyhoedd oedd yn frwd dros weld amgueddfa fyddai’n llawn gwrthrychau. Nid yw hyn yn dasg hawdd wrth adeiladu amgueddfa o ddim byd!

Mae cymorth ac ymroddiad Amgueddfa Cymru wedi ein galluogi i fenthyg gwrthrychau sydd heb gael eu gweld yng Nghaerdydd ers degawdau (neu fwy). Mae nhw ar ein silffoedd ni bellach, yn hytrach nag yn storfeydd Amgueddfa Cymru, syn beth da i ni, ein hymwelwyr ac Amgueddfa Cymru.

www.cardiffstory.com

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Bu Amgueddfa Cymru, ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynllunio arddangosfa ar gyfer Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ei newydd wedd.

Y nod yw adrodd hanes diwylliannol Cymru drwy ein casgliadau cenedlaethol, dathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam ym 2001 a dathlu 150 mlynedd o’r Eisteddfod - digwyddiad mwyaf yng nghalendr cymdeithasol Cymru.

www.wrexham.gov.uk/heritage

Gwaith Partneriaeth Ehangach

Rydym ni’n parhau i feithrin perthnasau gyda lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, sy’n adeiladu ar y polisi hirdymor o roi benthyg i sefydliadau eraill ac ar y profiad o weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae projectau partneriaeth a chyfnewid gydag amgueddfeydd cenedlaethol tu hwnt i Gymru wedi arwain at rannu strategaethau curadurol yn ogystal ag ehangu mynediad at wrthrychau.

Am ragor o wybodaeth ar weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, cysylltwch â’r Dr Angela Gaffney, Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol, ar (029) 20573316 neu Angela Gaffney