Mae Amgueddfa Cymru yn falch o’i hymrwymiad i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol.
Felly rydym ni wedi datblygu dau gynllun partneriaeth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau lleol Cymru: Cyfoeth Cymru Gyfan a Celf Cymru Gyfan.
Yn ogystal â chynlluniau Cyfoeth Cymru Gyfan a Chelf Cymru Gyfan, rydym ni’n cydweithio’n agos mewn ffyrdd eraill gyda phartneriaid rhanbarthol allweddol trwy Gymru gan gynnwys Oriel y Parc, oriel Awdurdod Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro; Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Stori Caerdydd.
Mae ein cynlluniau cyfredol cyffrous yn cynnwys:
Oriel Tirluniau, Oriel y Parc - Hanesion yr Heli: Uwchben, Islaw a Thu Hwnt i'r Llanw (16 Ebrill 2011 - 21 Mawrth 2012)

Gan fenthyg o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru a chasgliadau eraill, daw ysbrydoliaeth Hanesion yr Heli o bob peth morol – uwchben, islaw a thu hwnt i’r llanw..
Gan ddefnyddio hanesion o ardal Sir Benfro ac o bedwar ban, mae’n plymio i ddyfnderau’r môr drwy ystyried y byd naturiol a’r amgylchedd; diwydiannau a chymunedau morol; adrodd straeon a chwedlau; a’r arfordir, sydd fel ffin newidiol rhwng dau fyd.
Mae Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cydweithio yn Oriel y Parc, lle mae gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn cael eu cyfuno gydag arddangosfeydd o’r casgliadau cenedlaethol i ddathlu’r dirwedd. Mynediad am ddim, ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch. Am wybodaeth am ddigwyddiadau, gweler gwefan Oriel y Parc.
Ar agor 9.30am hyd at 5.30pm bob dydd (1 Mawrth– 1 Hydref) a 10am hyd at 4.30pm (rhwng Tachwedd a Chwefror).
Ffurfiwyd Ffrindiau Oriel y Parc yn 2011 i godi broffeil, gefnogi ac i gymorthwyo Oriel Tirluniau, Oriel y Parc, Tyddewi.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.friendsoforielyparc.co.uk
Agorodd Amgueddfa Stori Caerdydd ei drysau ar 1 Ebrill 2011. Dyma’r amgueddfa gyntaf yng Nghaerdydd fydd yn adrodd hanes y ddinas ei hun.
Mae’r gwaith cynllunio wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd, a bu tîm Stori Caerdydd yn gweithio’n agos â staff Amgueddfa Cymru drwy gydol y project.

Victoria Rogers, Stori Caerdydd:
Chwaraeodd Amgueddfa Cymru rôl ymgynghorydd cefnogol gan ddarparu cyngor ar bopeth o fanyleb ein casys amgueddfa, y larymau a’r monitorau amgylchedd gorau a’r gweithdrefnau posibl ar gyfer staff blaen tŷ.
Y pleser pennaf o gydweithio â nhw yw ein bod wedi medru benthyg gwrthrychau o’r Casgliad Cenedlaethol i’w harddangos yn ein hamgueddfa. Mae gan Gaerdydd stori anhygoel i’w hadrodd, ond doedd dim lleoliad i adrodd yr hanes tan nawr.
Wrth greu ein horielau newydd buom yn ymgynghori tipyn â’r cyhoedd oedd yn frwd dros weld amgueddfa fyddai’n llawn gwrthrychau. Nid yw hyn yn dasg hawdd wrth adeiladu amgueddfa o ddim byd!
Mae cymorth ac ymroddiad Amgueddfa Cymru wedi ein galluogi i fenthyg gwrthrychau sydd heb gael eu gweld yng Nghaerdydd ers degawdau (neu fwy). Mae nhw ar ein silffoedd ni bellach, yn hytrach nag yn storfeydd Amgueddfa Cymru, syn beth da i ni, ein hymwelwyr ac Amgueddfa Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynllunio arddangosfa ar gyfer Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ei newydd wedd yn yr haf.

Y nod yw adrodd hanes diwylliannol Cymru drwy ein casgliadau cenedlaethol; dathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam; a dathlu 150 mlynedd o’r digwyddiad mwyaf yng nghalendr cymdeithasol Cymru.
Gwaith Partneriaeth Ehangach
Rydym ni’n parhau i feithrin perthnasau gyda lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, sy’n adeiladu ar y polisi hirdymor o roi benthyg i sefydliadau eraill ac ar y profiad o weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae projectau partneriaeth a chyfnewid gydag amgueddfeydd cenedlaethol tu hwnt i Gymru wedi arwain at rannu strategaethau curadurol yn ogystal ag ehangu mynediad at wrthrychau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dr. Angela Gaffney, Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol Amgueddfa Cymru. Rhif ffôn: (029) 20 573316; ebost: Angela Gaffney







