Newyddion
Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.
Y Glannau’n cynorthwyo i greu Amgueddfa Ysgol
Dros yr wythnosau diwethaf, mae disgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen yn Abertawe wedi bod yn dysgu am hanes eu cymuned.
Cyhoeddi rhestr fer gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU
Artistiaid o Cuba, India, Lithiwania, Mecsico, Slofenia, Sweden a’r DU ar restr fer Artes Mundi 5
Dyma’r Ddraig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cyn hir, bydd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn dechrau ac eleni eto, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynorthwyo Canolfan Gymunedol Tsieineaidd Abertawe i wireddu eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y dathlu.
Blodau gwyllt annhymorol yng Nghaerdydd
Mae'r tywydd mwyn dros y gaeaf wedi galluogi 63 blodyn gwyllt i flodeuo, sy'n llawer mwy na'r 20-30 cyfanwsm cyffredin o 20-30 o rywogaethau. Bu Dr Tim Rich o Amgueddfa Cymru a Dr Sarah Whild o Brifysgol Birmingham yn chwilio am flodau gwyllt ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn (Ionawr 2012) a dangosodd y blodau bod y gaeaf wedi bod yn un mwyn.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cofio 100 mlynedd ers alldaith Scott
Mae'r gyfres Frozen Planet wedi ein cludo i fyd sy’n tanio’r dychymyg ers wythnosau bellach – anialwch oer y pegynau. Ganrif yn union yn ôl, roedd Scott a’i dîm yn llusgo eu slediau ar hyd llen iâ’r Antarctig tuag at Begwn y Gogledd, ddeunaw mis wedi hwylio o Gaerdydd. Wedi cyrraedd, dyma ddod i ddeall bod tîm o Norwy wedi cyrraedd fis ynghynt.
Bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Ionawr yn coffau criw Scott yn cyrraedd pegwn y gogledd ar 17 Ionawr 1912. Cynhelir arddangosfa Capten Scott: Taith dros Wyddoniaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn 14 Ionawr i ddydd Sul 13 Mai 2012 gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig y Deyrnas Unedig.
Brigwrn Capel Garmon bellach yn drysor parhaol yn yr Amgueddfa
Amgueddfa Cymru’n diogelu un o weithiau hynafol pwysicaf Cymru
Darganfyddiad daearegol newydd yn arwain y ffordd i ddysgu mwy am gludo cerrig Côr y Cewri
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yn Archaeology in Wales gan Dr Rob Ixer o Brifysgol Caerlŷr a Dr Richard Bevins o Amgueddfa Cymru yn cadarnhau, am y tro cyntaf, union darddiad rhai o naddion rhyolit Côr y Cewri. Gall y gwaith hwn arwain at atebion diddorol i gwestiwn pwysig: sut y cludwyd cerrig o Sir Benfro i Gôr y Cewri?
Arddangosfa Cardiau Nadolig boblogaidd yn Amgueddfa’r ddinas
Mae cardiau Nadolig wedi bywiogi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau drwy gyfrwng cyfres o gynlluniau arbennig gan dalentau creadigol Ysgol Pen-y-Bryn yn Abertawe.







