Mis Hanes LGBT 2013
[delwedd: Gareth Thomas]
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol am drydydd tro yn 2013.
Rydyn ni'n cynnal rhaglen o digwyddiadau yn ystod mis Chwefror i ddathlu bywydau a llwyddiannau'r gymuned LGBT yng Nghymru.
Ar y cyd â'n rhaglen gyhoeddus ar gyfer Mis Hanes LGBT, mae Amgueddfa Cymru yn falch i fod yn rhan o rhaglen Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall. Mai ni yw'r amgueddfa gyntaf ym Mhrydain i ymuno.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, nod Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo amrywiaeth a gwella'r lle gwaith ar gyfer ein staff sydd yn lesbiaid, yn hoyw neu'n drawsrywiol.
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Noson gyda Gareth Thomas (21 Chwefror)
Dewch i glywed Gareth yn trafod ei brofiad o fod yn un o athletwyr proffesiynnol cyntaf i ddod allan fel dyn hoyw a'i fywyd fel arwr rygbi.
Sgwrs: Hanesion Cudd (24 Chwefror)
Dewch i glywed sut mae'r Amgueddfa'n casglu hanesion cudd gyda'r Curadur Owain Rhys.
Crefftredu (24 Chwefror)
Dewch i greu baneri protest pwyth croes i ddathlu mis LGBT.
[delwedd: Stonewall - Hyrwyddwyr Amrywiaeth]
Digwyddiadau Perthnasol
Dangosiad Ffilm: Call Me Kuchu (2012), Uganda/UDA, 87 munund, 12a.
Lavender Screen, Canolfan Gelf Chapter (26 Chwefror, 5.45pm)
Yn Uganda, mae deddf newydd yn bygwth cyflwyno'r gosb eithaf i bobl sy'n hoyw. Mae David Kato – dyn hoyw 'agored' cyntaf Uganda – a'i gyd-ymgyrchwyr yn wynebu camdriniaeth ofnadwy wrth iddynt weithio i wrthdroi'r ddeddfwriaeth, a mynnu eu hawliau.
Trwy'r rhaglen ddogfen eofn hon, bydd Lavender Screen yn dathlu Mis Hanes LGBT ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, ac yn ein hatgoffa o ymgyrch y gymuned LGBT yn Uganda dros yr hawl i fyw a'r hawl i garu. Arweinir trafodaeth Lavender Screen ar ôl y ffilm gan Sara Huws o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Diwrnod ymwybyddiaeth Fforwm LGBT a dangosiad o’r ffilm Call me Kuchu.
Amgueddfa Abertawe (28 Chwefror)
Trefn y dydd:
- 1pm – cyfle i grwydro 20 stondin ymwybyddiaeth a dysgu sut y gallwch chi gymryd rhan mewn gwahanol brojectau cymunedol.
- 2pm – areithiau byr gan Aelodau Cabinet a Chadeirydd y Fforwm.
- 2.15pm – Dawns Gymunedol.
- 2.30pm – Sgwrs gan Rainbow Group am ddod allan yng Nghymru.
- 3pm – Sylwadau cyn cychwyn a dangos rhaglen ddogfen Call me Kuchu
- 4pm – Sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth am y gwersi a ddysgwyd o hanes Uganda wedi’u hwyluso gan Bisi Alimi, ymgyrchydd LGBT o Nigeria sy’n byw yn y DU ac a oedd yn adnabod Kata.
- 4.30pm – Sylwadau i gloi.
2 Sesiwn, 1 - 5pm a 6 - 8pm (Yn sesiwn y prynhawn yn unig fydd y Ddawns a sgwrs Rainbow Group.)
35 o sefydliadau sy’n cynrychioli’r gymuned LGBT ac yn gweithio gyda gwahanol rannau ohoni yw’r Fforwm LGBT.
Mae rhagor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT ar http://www.lgbthistorymonth.org.uk