Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau > Mis Hanes LGBT
English

Mis Hanes LGBT 2013

Gareth Thomas

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol am drydydd tro yn 2013.

Rydyn ni'n cynnal rhaglen o digwyddiadau yn ystod mis Chwefror i ddathlu bywydau a llwyddiannau'r gymuned LGBT yng Nghymru.

Ar y cyd â'n rhaglen gyhoeddus ar gyfer Mis Hanes LGBT, mae Amgueddfa Cymru yn falch i fod yn rhan o rhaglen Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall. Mai ni yw'r amgueddfa gyntaf ym Mhrydain i ymuno.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, nod Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo amrywiaeth a gwella'r lle gwaith ar gyfer ein staff sydd yn lesbiaid, yn hoyw neu'n drawsrywiol.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Noson gyda Gareth Thomas (21 Chwefror)
Dewch i glywed Gareth yn trafod ei brofiad o fod yn un o athletwyr proffesiynnol cyntaf i ddod allan fel dyn hoyw a'i fywyd fel arwr rygbi.

Sgwrs: Hanesion Cudd (24 Chwefror)
Dewch i glywed sut mae'r Amgueddfa'n casglu hanesion cudd gyda'r Curadur Owain Rhys.

Crefftredu (24 Chwefror)
Dewch i greu baneri protest pwyth croes i ddathlu mis LGBT.

Stonewall - Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Digwyddiadau Perthnasol

Dangosiad Ffilm: Call Me Kuchu (2012), Uganda/UDA, 87 munund, 12a.
Lavender Screen, Canolfan Gelf Chapter (26 Chwefror, 5.45pm)

Yn Uganda, mae deddf newydd yn bygwth cyflwyno'r gosb eithaf i bobl sy'n hoyw. Mae David Kato – dyn hoyw 'agored' cyntaf Uganda – a'i gyd-ymgyrchwyr yn wynebu camdriniaeth ofnadwy wrth iddynt weithio i wrthdroi'r ddeddfwriaeth, a mynnu eu hawliau.

Trwy'r rhaglen ddogfen eofn hon, bydd Lavender Screen yn dathlu Mis Hanes LGBT ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, ac yn ein hatgoffa o ymgyrch y gymuned LGBT yn Uganda dros yr hawl i fyw a'r hawl i garu. Arweinir trafodaeth Lavender Screen ar ôl y ffilm gan Sara Huws o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.


Diwrnod ymwybyddiaeth Fforwm LGBT a dangosiad o’r ffilm Call me Kuchu.
Amgueddfa Abertawe (28 Chwefror)

Trefn y dydd:

2 Sesiwn, 1 - 5pm a 6 - 8pm (Yn sesiwn y prynhawn yn unig fydd y Ddawns a sgwrs Rainbow Group.)

35 o sefydliadau sy’n cynrychioli’r gymuned LGBT ac yn gweithio gyda gwahanol rannau ohoni yw’r Fforwm LGBT.


Mae rhagor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT ar http://www.lgbthistorymonth.org.uk