Rydych chi yn: Hafan > Cyfleoedd Masnachol

Cyfleoedd Masnachol

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i redeg y gweithrediadau canlynol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru: Y Popty, Y Crochendy, a ‘Teithiau Ceffyl a Throl’.

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wedi’i lleoli ar gyrion dinas Caerdydd ac yn rhan o Amgueddfa Cymru. Dyma un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf cyffrous Ewrop ac atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru gan ddenu tua 650,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Bellach mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol rannau o Gymru wedi’u hail-adeiladu yn ofalus ar y 104 o erwau o barcdir sydd yma.

Dengys yr Amgueddfa sut y bu pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn treulio’u hamser hamdden. Mae crefftwyr yn arddangos eu gwaith a gellir gweld hen ddulliau o ffermio yn feunyddiol yn ogystal ag anifeiliad ffarm traddodiadol yn pori yn y caeau.

Mae’r orielau yn cynnig gogwydd gwahanol ar gasgliadau’r Amgueddfa. Mae Oriel 1 yn edrych ar ystyr hunaniaeth a pherthyn yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain wrth ddathlu’r amrywiaeth o ddiwylliannau a chymunedau. Mae’r orielau eraill yn canolbwyntio ar amaeth, gwisgoedd a thecstilau.

Y Crochendy

Mae’r Amgueddfa yn chwilio am grochenydd fydd yn arfer ei grefft yng Nghrochendy Sain Ffagan ar sail masnachol, a bydd yn cynhyrchu crochenwaith modern a thraddodiadol i safon fydd yn dderbyniol i’r Amgueddfa.

Bydd y crochenydd yn sicrhau bod Crochendy Sain Ffagan ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau agor arferol yr Amgueddfa ac yn arddangos technegau creu crochenwaith wrth esbonio’r broses i’r ymwelwyr. Bydd yn hanfodol i gael dealltwriaeth o’r traddodiad Cymreig o grefft y crochenydd.

Dylai fod y Crochenydd yn barod i gynnal sgyrsiau a chyrsiau mewn crochenwaith i grwpiau os yw’r Amgueddfa yn gofyn am hynny.

Bydd y crochenydd yn darparu offer addas at y pwrpas o greu crochenwaith yn y gweithdy.

Y Popty

Mae’r Amgueddfa yn chwilio am bobydd fydd yn parhau â’r gwaith o bobi ym Mhopty’r Dderwen ar sail masnachol. Bydd yn defnyddio dulliau traddodiadol ac yn dilyn arferion oedd yn gyffredin yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif o danio’r ffwrn gyda phrennau caled a thylino toes a chymysgeddau â llaw gan ddefnyddio offer sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Amgueddfa.

Bydd y pobydd yn arddangos technegau pobi bara a theisennau ac yn gwerthu’r rhain ynghyd â nifer cyfyngedig o felysion traddodiadol i ymwelwyr.

Bydd y pobydd yn sicrhau bod y popty ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau agor arferol yr Amgueddfa, ac eithrio’r cyfnod cynnal a chadw blynyddol.

Teithiau Ceffyl a Throl

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig ‘Teithiau Ceffyl a Throl’ i ymwelwyr yn yr Amgueddfa yn ystod yr oriau agor arferol rhwng mis Mawrth a diwedd mis Hydref. Bydd yn rhaid i’r gweithredyddion ddod â’u ceffylau, offer a cherbydau eu hunain yn ogystal a bod yn gyfrifol am fwydo a gofalu am y ceffylau.

Dylai gyrrwyr y cerbydau wisgo’n addas ar gyfer y swydd: het bowler, côt farchogaeth, clos pen-glin (jodhpurs) a bŵts marchogaeth.

Gellir cadw mwyafrif o dri cheffyl yn y stablau yn fferm Llwyn-yr-eos yn yr Amgueddfa.

Bydd angen i’r gweithredyddion feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol.

Dylid dychwelyd datganiadau o ddiddorbeb am bob un o’r uchod i’r Amgueddfa erbyn 22 Gorffennaf 2011. Bydd yr Amgueddfa’n anfon gwahoddiadau i dendro i’r rheiny sydd wedi nodi’u diddordeb.

Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb at:

Matthew Davies
Cydlynydd Gweithgareddau Safle
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB

matthew.davies@amgueddfacymru.ac.uk

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.