Rydych chi yn: Hafan > Amdanom ni > Llyfrgell Luniau

Llyfrgell Luniau

Mae gan Amgueddfa Cymru lyfrgell o ddelweddau sydd heb ei ail. Mae'n amrywio o gelf Argraffiadol i dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Mae’r casgliad yn cwmpasu darluniau botanegol, delweddau archeolegol sy’n cynnwys y Rhufeiniaid a'r Celtiaid, hanes natur, bywyd gwerin, hanes diwydiant a morwriaeth.

Mae’r casgliad celf ryngwladol yn Amgueddfa Cymru’n drysor cudd i lawer o ymchwilwyr lluniau ac mae’n cynnwys gweithiau o’r Dadeni hyd heddiw. Mae’n arbennig o gryf ym maes celf gain a chymwysedig Prydain ac Ewrop, gyda gweithiau gan Millet, Renoir, Monet, Van Gogh a Cézanne.

Gwasanaethau

Atgynhyrchu masnachol

Gellir cael delweddau i’w hatgynhyrchu mewn cyhoeddiadau, ffilmiau, ar y teledu a thrwy gyfryngau eraill. Gellir gwneud ymholiadau trwy lythyr neu e-bost.

Codir ffi atgynhyrchu a thrafod am ddefnyddio unrhyw ddelweddau.

Ein nod yw cwblhau archebion cyn pen 10 diwrnod gwaith, neu gallwn ni gynnig gwasanaeth 3 diwrnod am £25 ychwanegol.

Gwerthu Printiau

Mae delweddau o’r casgliadau ar gael i’r cyhoedd eu prynu ar ffurf printiau hefyd.

Ein nod yw cwblhau archebion cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Ymholiadau

Ansicr a oes gennym ni’r pethau rydych chi’n chwilio amdanynt? Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth chwilio am £25 + TAW am hyd at 1 awr a chyfradd o £30 yr awr o hynny ymlaen: Ymholiadau

Hawlfraint

Amgueddfa Cymru sydd biau’r hawlfraint ar yr holl ddeunyddiau ffotograffig sy’n gysylltiedig ag eitemau yn y casgliadau. Rhaid priodoli unrhyw ddelweddau ffotograffig i 'Amgueddfa Genedlaethol Cymru'.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.