Hanes y Llyfrgell

Pan sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru, penodwyd y Llyfrgellydd cyntaf ym 1914, dair blynedd ar ôl dechrau gwaith adeiladu'r Amgueddfa.

Prif Llyfrgell

Yn y 1920au fe symudwyd casgliad gwreiddiol y Llyfrgell i lyfrgell a godwyd yn arbennig. Yn ddiweddarach fe symudwyd llawer o ddeunydd perthnasol i'r adrannau unigol er mwyn creu llyfrgelloedd adrannol. Erbyn hyn, yr ystafell wreiddiol yw'r Prif Lyfrgell neu'r Llyfrgell Gyffredinol, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Prif bwrpas y Llyfrgell yw gwasanaethu'r staff curadurol, ynghyd â chydweithwyr eraill. Ychwanegir tua 3000 o gyfrolau at y casgliad bob blwyddyn, drwy eu prynu, derbyn cyfraniadau a chyfnewid. Erbyn hyn mae dros 200,000 o fonograffau a chyfnodolion wedi'u rhwymo yn y casgliad, ac ar hyn o bryd mae'r Llyfrgell yn derbyn 1200 cyfnodolyn.

Yn ogystal â'r deunydd cyfair cyffredinol a'r casgliad am amgueddfeydd, mae'r Prif Lyfrgell yn cynnwys yr holl lyfrau cyn 1701, ynghyd â nifer o gasgliadau arbennig eraill, er enghraifft casgliad Willoughby Gardner o lyfrau cynnar am fyd natur.

Mae gwahanol safleoedd yr Amgueddfa gyda llyfrgelloedd a gellir gwneud gwaith ymchwil yno drwy apwyntiad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae tri aelod llawn-amser a dau aelod rhan-amser yn gweithio ym Mhrif Lyfrgell yr Amgueddfa, ac fe geir Llyfrgellydd llawn-amser yn Sain Ffagan hefyd.

Dewiswch gategori o'r rhestr isod i ddarganfod rhagor am gasgliadau'r Llyfrgell.

Am wybodaeth ynglŷn â mynediad at y casgliadau dewiswch gwasanaethau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.