Ffilmio a Ffotograffiaeth
Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu ceisiadau i ffilmio yn cynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu teledu, rhaglenni dogfen, rhaglenni ffeithiol, cyfweliadau a sesiynau ffotograffiaeth. Mae ein saith amgueddfa'n cynnig amrywiaeth o leoliadau unigryw – o adeiladau hanesyddol i ecody o'r unfed ganrif ar hugain, deinosoriaid i orielau celf, gerddi ffurfiol i bwll glo.

Mae dramâu teledu a ffilmiwyd yn ein hamgueddfeydd yn cynnwys Dr Who, Torchwood, Sherlock, Pobl y Cwm a Gwaith Cartref. Rydym hefyd wedi ymddangos ar Snowdonia 1850, The Coal House ac Ancient Britain ac wedi bod yn lleoliad i'r gyfres boblogaidd Antiques Roadshow yn ddiweddar.
Mae'r holl elw o ffilmio masnachol yn helpu i gynnal a chadw a gweinyddu'r Amgueddfeydd.
Cysylltwch â ni… Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag aelod o'r tîm Ffilmio Masnachol:
Ffôn: 029 2057 3327 / 3129
Ffacs: 029 2057 3326
Ebost: Ffilmio
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!







