Llogi Cyfleusterau
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Adeiladau unigryw, lleoliadau anhygoel, digwyddiadau cofiadwy...
Mae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o gyfleusterau arbennig y gellir eu llogi, pob un ag awyrgylch unigryw a thrawiadol sy'n siŵr o ysbrydoli a chreu argraff.
Boed yn trefnu cinio gala, priodas, cynhadledd, cyngerdd, seremoni wobrwyo, cyfarfod, hyfforddiant neu ddiwrnod cwrdd i ffwrdd corfforaethol, gallwch chi a'ch gwesteion gael profiad i'w drysori yng nghanol diwylliant, hanes a threftadaeth ar ei orau.
Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau ffilmio a ffotograffiaeth a partïon pen-blwydd plant.
Cliciwch i ddysgu mwy am logi ein lleoliadau unigryw:
Gallwn eich cynorthwyo gyda'r holl drefniadau fel bod eich digwyddiad yn rhedeg yn hwylus ac effeithiol - o'r cais cychwynnol i ddigwyddiad llwyddiannus.
Mae'n bleser gennym gynnig gostyngiad ar gyfradd llogi yn ystod y dydd i elusennau cofrestredig, cyrff addysg ffurfiol, grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cymru.
Mae'r holl elw o drefniadau llogi cyfleusterau yn helpu i gynnal a chadw a gweinyddu'r amgueddfeydd, ac yn cefnogi Amgueddfa Cymru fel elusen gofrestredig.