Llogi Cyfleusterau




Adeiladau unigryw, lleoliadau anhygoel, digwyddiadau cofiadwy…
Mae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o gyfleusterau arbennig y gellir eu llogi, pob un ag awyrgylch unigryw a thrawiadol sy'n siŵr o ysbrydoli a chreu argraff. Boed yn trefnu cinio gala, priodas, cynhadledd, cyngerdd, seremoni wobrwyo, cyfarfod, hyfforddiant neu ddiwrnod cwrdd i ffwrdd corfforaethol, gallwch chi a’ch gwesteion gael profiad i'w drysori yng nghanol diwylliant, hanes a threftadaeth ar ei orau. Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau Ffilmio a Ffotograffiaeth a Partïon Pen-blwydd Plant.
Cliciwch i ddysgu mwy am logi ein lleoliadau unigryw:
Gallwn eich cynorthwyo gyda'r holl drefniadau fel bod eich digwyddiad yn rhedeg yn hwylus ac effeithiol – o'r cais cychwynnol i'r digwyddiad llwyddiannus.
Mae'n bleser gennym gynnig gostyngiad ar gyfradd llogi yn ystod y dydd i elusennau cofrestredig, cyrff addysg ffurfiol, grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cadwch lygad am Logi Cyfleusterau yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre; yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis – ar y ffordd yn 2011!
Bydd yr holl elw o drefniadau Llogi Cyfleusterau yn helpu i gynnal a chadw a gweinyddu'r Amgueddfeydd, ac yn cefnogi Amgueddfa Cymru fel elusen gofrestredig.











