
Croeso nôl i'r Hebogiaid Tramor ar Dŵr y Cloc yn 2013
O Ebrill tan ddiwedd Gorffennaf 2013
Dechreuodd yr Hebogiaid Tramor, gafodd eu henwi'n Gavin a Stacey gan ysgol leol, nythu ar dŵr y cloc yn 2007, ar âl erlid pâr o gigfrain oddi yno a dwyn eu nyth.
Mae nhw wedi cael ychydig o lwyddiant yn bridio dros y blynyddoedd. Dyma nhw'n magu un plentyn y llynedd, benyw oedd yn dal yn y tŵr ym mis Medi.
Mae'r pâr wedi cadw'n dawel hyd yn hyn eleni, ond er gwaethaf y tywydd oer mae'r benyw wedi dodwy wyau ac wedi bod yn gori ers 20 Mawrth.
Gobeithio y byddan nhw'n llwyddiannus eleni eto.
Bydd yr RSPB yn cynnal digwyddiadau achlysurol ar benwythnosau yn y gwanwyn a'r haf yng Ngerddi Gorsedd, lle bydd cyfle i gael cip agosach drwy sbienddrych. Yn y cyfamser, cofiwch gadw llygad ar y Camera Hebogiaid i weld sut hwyl sydd arnyn nhw.
Newydd!
Gosodir camera agos ar waith erbyn Mis Ebrill, gan roi golygfeydd gwych i ni o'r nyth. Dewch yn ôl i'w weld.
Hoffech chi wirfoddoli?
Hoffech chi wirfoddoli gyda'r RSPB ar y project hebogiaid? Ffoniwch Laura Reynolds ar (029) 2035 3276 neu ebostio laura.reynolds@rspb.org.uk
I weld pa weithgarwch mae ein gwirfoddolwyr wedi'i weld yn y nyth, ewch i'n tudalennau ar y we
Camerâu byw
Gweld Archwilio ein Coedwigoedd am fwy o gamerâu byw.





