Gwreiddiau – Canfod y Gymru gynnar - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae’r oriel Archeoleg Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn olrhain bywyd yng Nghymru ers y bobl gynharaf 230,000 o flynyddoedd yn ôl.
Pwy oedd ein cyndeidiau, a pha mor wahanol oedden nhw i ni? Beth sydd wedi newid a beth achosodd y newidiadau hyn?
Dilynwch ddyfodiad yr homininau (bodau dynol) yn Hen Oes y Cerrig hyd at ganol y Canol Oesoedd.
Mae’r oriel yn cwmpasu goresgyniad a choncwest y Rhufeiniaid hyd at y 1500au, ac mae’n cynnwys gwrthrychau anhygoel a waredwyd, a gollwyd neu a aberthwyd ar hyd y ffordd.
Mae Gwreiddiau’n cynnwys y gweddillion dynol cynharaf ym Mhrydain ac eurwaith trawiadol o’r Oes Efydd , ac mae’n ein helpu wrth archwilio gwrthdaro, grym, cyfoeth, teuluoedd a’r dyfodol - themâu y mae pobl wedi myfyrio yn eu cylch drwy’r oesoedd.x
Mae’r straeon y tu ôl i’r gwrthrychau’n rhoi cipolwg o’r amseroedd pellennig hyn, a dealltwriaeth ddyfnach o’n gwreiddiau.
Mae rhai gwrthrychau’n brydferth dros ben, a gwnaed y mwyafrif ohonynt â llaw. Mae llawer ohonynt yn cynnig tystiolaeth ffisegol o’r grymoedd sydd wedi newid bywyd a’r dirwedd ers ymddangosiad y bobl gynharaf. Bydd rhai’n gyffredin, eraill yn anghyffredin.
Maent yn ein helpu i ddeall pwy ydyn ni.
Gwrandewch ar podcast (yn saesneg yn unig) yn cyflwyno'r arddangosfa Gwreiddiau, neu ymweld â'n tudalennau Digwyddiadau i fanylion am Teithiau tywys o'r oriel.
Defnyddiwch y dolenni isod am olwg o’r hyn sy’n eich disgwyl ym mhob un o gyfnodau Gwreiddiau:

