Cewch eich cyfareddu gan stori diwydiant gwlân Cymru - Amgueddfa Wlân Cymru
[delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]
[delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]
[delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]
Yn y gorffennol, y diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin Cymru.
Ar un adeg, roedd pentref pert Dre-fach Felindre ynghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i'r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw'n 'Huddersfield Cymru'. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a'u gwerthu i'r ardaloedd cyfagos - ac i bedwar ban byd.
Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd. Ailagorwyd yr Amgueddfa yn 2004 ar ôl gwaith ailddatblygu helaeth ac erbyn hyn mae'n lle cyffrous i ymweld ag ef gyda rhywbeth at ddant pawb.
Dilynwch y broses o Ddafad i Ddefnydd ac ymwelwch a'r adeiladau rhestredig y ffatri sydd wedi eu adnewyddwyd mewn ffordd sensitif. Yno cewch weld Peirianwaith Hanesyddol a nodweddion newydd sbon, fel y clos tô gwydr.
Cewch ddilyn llwybr arbennig a gweld tecstilau'n cael eu cynhyrchu ym Melin Teifi, sef ffatri wlân fasnachol y safle, ac ymweld â'r Oriel Decstiliau sy'n dangos agweddau ar y Casgliad Cenedlaethol o Decstilau Fflat am y tro cyntaf.
Caiff teuluoedd hwyl yn dilyn llwybr y 'Stori Wlanog', gan greu eu cyfarwyddiadau eu hunain i wneud a defnyddio brethyn a rhoi cynnig ar waith cardio, nyddu a gwnïo ar eu ffordd.
Mae staff cyfeillgar yr Amgueddfa bob amser wrth law i ddangos sut mae pethau'n gweithio ac i ateb cwestiynau.