Gweddnewid Dyfodol Plant

...drwy greu llwybrau ar gyfer cyfranogiad diwylliannol

Strategaeth Amgueddfa Cymru i gefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn tlodi 2012-2015

Rydym am glywed eich barn...

Bydd y cyfnod ymgynghorol yn parhau hyd at 20 Mawrth 2012. Yn ystod y cyfnod hwn rydym yn ceisio casglu mewnbwn gan ystod mor eang ag sy'n bosibl o fudiadau ac unigolion. Anfonwch eich ymateb naill ai drwy ebost at

ymgynghori@amgueddfacymru.ac.uk

neu trwy lythyr at:

Gweddnewid Dyfodol Plant, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays
Park, Caerdydd CF10 3NP.

Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt os hoffech dderbyn ymateb. Mae Amgueddfa Cymru yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 fel y nodir yn ein Polisi Gwarchod Data.

Er ein bod yn gofyn am eich ymateb i'n cwestiynau ar ochr dde'r dudalen, hoffem hefyd i chi roi eich sylwadau a'ch adborth ym mha bynnag ffyrdd sy'n addas i chi.

Yn ystod yr ymgynghoriad byddwn yn siarad yn uniongyrchol â phlant sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a'u teuluoedd, gan ofyn beth gall eu hamgueddfeydd cenedlaethol wneud drostynt. Os ydych yn gweithio mewn ysgol, ac am gymryd rhan, cysylltwch â ni. Byddwn yn cynnal cyfres o seminarau ym mhob un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol er mwyn i ni ymgysylltu ag arbenigwyr sector o elusennau, awdurdodau lleol a'r rhai sy'n cyfranogi ar hyn o bryd mewn Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc ar lefel leol. Byddwn hefyd yn trefnu cynhadledd i'w chynnal yn ystod haf 2012 i ystyried swyddogaeth amgueddfeydd wrth herio tlodi plant

Ymatebwch i'r cwestiynau sy'n berthnasol i chi/eich mudiad

  1. Beth ddylai Amgueddfa Cymru ei wneud i gynyddu hygyrchedd a mynd i'r afael â thlodi cyfranogiad?

  2. A yw ein strategaeth yn briodol a pherthnasol? A oes bylchau yn y strategaeth?

  3. Ble ddylid targedu ein hadnoddau i gael y budd mwyaf?

  4. Pa ardaloedd daearyddol ddylai Amgueddfa Cymru eu targedu? Pa bartneriaid dylid ymgysylltu â nhw? Sut dylid cynhyrchu rhagor o bartneriaethau? A fyddech yn ystyried bod yn bartner i gyflawni'r strategaeth hon?

  5. A ydych yn rhagweld unrhyw rwystrau rhag ymgysylltu ag Amgueddfa Cymru?

Wedi gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud am ein strategaeth, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol (fel dogfen i gyd-fynd â'n Cynllun Gweithredu blynyddol) fydd yn gosod ein nodau, amcanion, mesurau a chanlyniadau ar gyfer y flwyddyn yn glir. Bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ebrill 2012. Rydym yn cydnabod y byddwn fwyaf effeithiol wrth weithio gyda phartneriaid sy'n treulio'u holl amser yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi a'u cefnogi. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaid sy'n medru cydweithio â ni yn y modd hwn. Fel sefydliad cenedlaethol, byddwn yn mapio'r gweithgaredd yn y cynllun gweithredu er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â thlodi cyfranogiad yn yr ardaloedd o Gymru lle mae'r angen mwyaf.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.