Cyflwyniad
[delwedd: Coron yr Archdderwydd]
Coron yr Archdderwydd a grewyd gan Hubert von Herkomer ar gyfer Seremoni Cyhoeddi Casnewydd ym 1896.
Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sy wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r genedl, ei hiaith a'i diwylliant yw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gorsedd y Beirdd sy'n gyfrifol am basiantri Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hi sy'n trefnu a chynnal seremonïau lliwgar a dramatig y Cyhoeddi a defodau Cylch yr Orsedd, a seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio ar lwyfan y Brifwyl.
Ein nod yma yw cyflwyno'r gymdeithas ryfeddol hon, yn ei holl ysblander defodol a seremonïol o'r cychwyn cyntaf yn 1792 hyd at heddiw.
'Nid ei chledd ond ei gweddi - a'i harddwch
A rydd urddas arni;
Mae nodded tu mewn iddi
I'r Gymraeg rhag ei marw hi.'Tîm Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi
[delwedd: Cefnogwyd gan y Lotri Genedlaethol]