
Rydym yn chwilio am geisiadau mewn barddoniaeth a chelf sydd wedi cael eu hysbrydoli gan Rhufain a'r Gemau Hynafol.
Anfonwch lun neu gerdd ar y thema Gemau Olympaidd i’n cystadleuaeth er mwyn ennill tocynnau i Ymerodraeth: Sioe Rufeinig ar 18 a 19 Awst 2012.
Bydd cystadlaethau celf a barddoniaeth a dau gategori ym mhob cystadleuaeth (dan 14 oed a dros 14 oed) gyda phob enillydd yn cael tocynnau teulu (2 oedolyn, 3 plentyn).
Gellir e-bostio eich cynigion at llengrufeinig@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy postio at:
Cystadleuaeth Gemau Heb Ffiniau
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Stryd Fawr
Caerllion
NP18 1AE
Gofiwch gynnwys eich enw, oedran a manylion cyswllt.
Competition Rules
1. Rhaid cael caniatâd rhiant neu warcheidwad cyfreithiol i gystadlu. Caiff y gwaith buddugol ei ddangos ar ein gwefan. Os caiff eich gwaith ei ddewis ar gyfer y rownd derfynol, rydych yn caniatáu i Amgueddfa Cymru ddefnyddio eich gwaith at ddibenion arddangos a hyrwyddo.
2. Dyddiad cau ceisiadau yw dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012. Ni allwn ddychwelyd gwaith gaiff ei bostio aton ni.
3. Ni fydd cynigion sy’n cyrraedd ar ôl y diwrnod cau yn cael eu hystyried.
4. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig ag eithrio staff Amgueddfa Cymru, eu teulu agos ac unrhyw gwmnïau sydd â chyswllt uniongyrchol â’r gystadleuaeth hon.
5. Ni ellir cyfnewid y gwobrau am arian.
6. Caiff y gwaith buddugol ei ddewis gan banel beirniaid wedi’i apwyntio gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Mae dyfarniad y beirniaid yn derfynol.
7. Caiff yr enillwyr eu hysbysu trwy alwad ffôn.
8. Bydd Amgueddfa Cymru yn defnyddio manylion personol cystadleuwyr at ddibenion y gystadleuaeth hon yn unig, ac ni fydd yn defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall. Bydd Amgueddfa Cymru yn dinistrio unrhyw ddata personol a dderbynnir yn ystod y gystadleuaeth wedi i’r gystadleuaeth orffen. Bydd unrhyw ddata personol yn cael ei drin yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998 ac ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd parti heb dderbyn caniatâd ymlaen llaw.
9. Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Amgueddfa Cymru a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau neu gwynion ynglŷn â’r gystadleuaeth at Reolwr yr Amgueddfa drwy’r cyfeiriad uchod.







