Gemau Bywyd Gwyllt Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Lawrlwythwch y PDF yma [1.5 MB]

Ffitrwydd a Goroesi

Mae anifeiliaid a phlanhigion yn gorfod cystadlu bob dydd i oroesi. Gall cryfder, maint, cyflymdra ac ystwythder roi mantais iddynt dros eu cystadleuaeth.

Edrychwch am y symbol ceiniog tsita yn ein horielau Hanes Natur Is ac Uwch, Esblygiad Cymru, y Byd Naturiol a Gwreiddiau i ddilyn y llwybr.

Cliciwch yma i weld yr atebion!

Dyma atebion cwestiynau Taith Oriel Gemau Bywyd Gwyllt. Da iawn!

  1. Faint o bwysau all chwilod y dom eu symud? Yn 2010, cafodd chwilen y dom Onthophagus taurus ei enwi’n bryfyn cryfa’r byd yn dilyn amcangyfrifon y gallai symud 1,141 gwaith yn drymach na’i bwysau ei hun. Byddai hyn yr un fath â pherson yn symud 6 bws deulawr! Gall llawer o chwilod mawr eraill symud gwrthrychau hyd at 50 gwaith yn drymach na’u pwysau eu hunain – tipyn o gamp!
  2. Pa ddau blanhigyn sydd â hadau gwenwynig iawn? Pa wenwyn sydd ynddyn nhw? Trogenllys a Physen Bader. Maen nhw’n cynnwys lectinau, y gwenwyn planhigyn mwyaf marwol. Risin (Hadau planhigyn olew castor) ac Abrin (Hadau Pysen Bader).
  3. Allech chi guro tsita mewn ras?Y Tsita yw’r mamal tir cyflymaf, ac mae’n gallu gwibio hyd at 100 cya (62 mya) ond mewn pyliau byr yn unig. Gall y dyn cyflymaf yn y byd gyrraedd tua 37 kya dros 100 metr.
  4. Pa blanhigyn sy’n gallu cau ei fagl yn gyflymach na Magl Gwener hyd yn oed? Mae gan y chwysigenddail y fagl sy’n cau gyflymaf o blith unrhyw blanhigion, sef cyfran fach o un rhan o fil o eiliad.
  5. Ble cafodd Môr-grwban Lledraidd mwyaf y byd ei ganfod?Harlech, gogledd Cymru. Mae’r sbesimen hwn yn cael ei ddangos yn orielau’r Amgueddfa.
  6. Sawl math gwahanol o olion traed allwch chi eu gweld yn yr arddangosfa olion deinosoriaid o Bendricks? Mae dau brif ôl – un a wnaed gan ddeinosor tebyg i Plateosaur (llysysydd), ac un gan ddeinosor tebyg i Coelophysis (cigysydd). Efallai taw trydydd math o ddeinosor a wnaeth yr olion traed egwan arall ar y slabiau.

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.