Delweddau Diwydiant
GLASLYN
artist unknown

Dyddiad: 19th century
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 623 x 743 mm
Derbyniwyd: 1990; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 90.6I
Llong bren oedd y GLASLYN oedd yn pwyso 763 tunnell gros, a chafodd ei hadeiladu ym 1873 neu 1876 gan gwmni Pembroke Dock Co-operative Shipbuilding Ltd. ar gyfer Evan Jones & Co., Caerdydd. Brodor o Afonwen, Gwynedd, oedd Jones, ac roedd yn berchennog llongau ym Mhorthmadog cyn symud i Gaerdydd tua 1865. Erbyn 1880, roedd yn berchen ar dair llong sylweddol, gan gynnwys y Glaslyn. Collwyd y llong ym 1865, ond aeth Jones ymlaen i brynu llongau ager. Daeth y cwmni i ben ym 1924.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw