Rhodfa Canol y Ddinas
Dewch i weld paneli gwybodaeth am lwybr arfaethedig project y Rhodfa fydd yn cychwyn ym mis Mawrth.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn para tan ddiwedd mis Tachwedd gyda’r ail gam rhwng pontydd afon Tawe a’r Strand yn 2014.
Bydd project y Rhodfa yn helpu i wella’r cysylltiadau rhwng y ddinas a’r glannau.
Bydd hefyd yn gwella edrychiad porth allweddol i ganol dinas Abertawe trwy wella’r amgylchedd rhwng pontydd afon Tawe a Ffordd y Dywysoges.
Am ragor o fanylion am fframwaith adfywio Abertawe, ewch i www.canolyddinasabertawe.com

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





