Gweithdy Brandon Mably: Cynllun Persian Poppy
Cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gweithdy arbennig gan Brandon Mably, dylunydd gweu ac awdur o fri.
Mae Brandon yn cydweithio â’r dylunydd tecstilau adnabyddus Kaffe Fassett, a bydd y gweithdy yn cyd-fynd ag Arddangosfa o Weuwaith Kaffe Fassett yn yr Amgueddfa Wlân.
Mae’r ddau yn adnabyddus am ddylunio cynlluniau patrymog, lliwgar a thrawiadol a bydd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr hogi eu defnydd o liw a magu'r hyder i gynllunio’u patrymau lliw eu hunain yn y dyfodol.
Rhaid archebu lle a thalu wrth archebu.
Dylai pob cyfranogwr ddod â nodwyddau gwau (o’r maint sydd fwyaf cyffyrddus iddyn nhw, awgrymir US 6-8), siswrn, ychydig o edau mewn o leiaf 6 lliw golau/llachar a 6 lliw tywyll/cyfoethog o leiaf, papur a phensil (dewisol), camera (dewisol).

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau