Julian Stair: Quietus - Y Llestr, Marwolaeth a’r Corff Dynol
Y Llestr, Marwolaeth a’r Corff Dynol
Julian Stair yw un o’r ceramegyddion uchaf ei fri yn y byd.
Yn yr arddangosfa unigol bwysig hon, mae’n archwilio cynhwysiant y corff dynol wedi marwolaeth drwy gyfrwng casgliad o lestri angladdol hardd, o jariau lludw i eirch cerrig coffaol maint llawn.
Gan ddefnyddio iaith symbolaidd llestri ceramig, mae’n cynnig ffordd wahanol o ymgysylltu â’r pwnc heriol hwn.
Arddangosfa deithiol yw Quietus ar y cyd â mima: Middlesbrough Institute of Modern Art.
Fideo gysylltiedig - 'Quietus: a documentary' gan Mark Wilcox.
Sgyrsiau Amser Cinio (1.05pm)
Dydd Gwener 17 Mai
Cyd-destun Quietus – hanes cryno cerameg angladdol, gyda Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymhwysol.
Dydd Gwener 24 Mai
Julian Stair: yr artist yn trafod ei arddangosfa, Quietus.
Dydd Gwener 7 Mehefin
Mewn Gofodau Eraill: y Sensitifrwydd rhwng Cerameg a Safleoedd, gyda James Beighton, Uwch Guradur – Athrofa Celf Fodern Middlesbrough a churadur arddangosfa Quietus.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau